Newyddion S4C

Heddlu Trafnidiaeth yn ymddiheuro i deulu dyn fu farw yng ngwrthdrawiad trên Llanbrynmair

31/10/2024
Tudor Evans

Mae'r Heddlu Trafnidiaeth wedi ymddiheuro i deulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng dau drên ger Llanbrynmair.

Roedd David Tudor Evans o Gapel Dewi yn teithio ar drên o'r Amwythig i Aberystwyth pan darodd dau drên ar y traciau ar 21 Hydref.

Roedd yn teithio adref o'i wyliau yn yr Eidal ar y pryd.

Cafodd pedwar arall eu hanafu yn ddifrifol yn y digwyddiad ar linell y Cambrian.

Mae ffrind teulu agos wedi cyhuddo'r Heddlu Trafnidiaeth, sy'n ymchwilio i'r digwyddiad, o fethu â chefnogi'r teulu. 

Dywedodd wrth asiantaeth newyddion PA: "Y ffaith ydy, ar noson y gwrthdrawiad, fe gafodd Rachel Evans (gwraig Mr Evans) ei gadael i ddelio â phethau ei hun, ni chafodd cefnogaeth ei ddarparu yn ddigonol ar y pryd."

Ar 22 Hydref, fe wnaeth y llu ryddhau datganiad yn dweud: "Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol."

Ond dim ond ar 23 Hydref y gwnaeth swyddog arbenigol o'r Heddlu Trafnidiaeth ymweld â'r teulu.

Ychwanegodd y ffrind teulu fod y teulu yn gwrthwynebu adroddiadau yn y wasg yn awgrymu achos y farwolaeth. 

"Ar hyn o bryd, mae rhai asiantaethau newyddion yn datgan nad oedd achos y farwolaeth yn gysylltiedig â'r gwrthdrawiad heb dystiolaeth.

"Fe gafodd y cwest ei agor ddoe, ac ar hyn o bryd, nid oes penderfyniad terfynol wedi cael ei wneud am achos y farwolaeth."

Fe wnaeth Uwcharolygydd Heddlu Trafnidiaeth Andrew Morgan ymddiheuro am eu datganiad.

"Hoffem ymddiheuro am y cam-gyfathrebu ychydig ar ôl y gwrthdrawiad trên.

"Mae'r Heddlu Trafnidiaeth wedi ymddiheuro yn uniongyrchol i deulu'r dyn fu farw yn ymwneud â'r datganiad yma a hoffem ymddiheuro yn gyhoeddus am unrhyw ddioddefaint ychwanegol a gafodd ei achosi yn ystod y cyfnod anodd yma."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.