Bod yn fodel Du 'yn fwy o sialens' yn y diwydiant modelu
Bod yn fodel Du 'yn fwy o sialens' yn y diwydiant modelu
"Dwi wastad yn dweud: dwi ddim eisiau gwastraffu’r wyneb yma."
Mae Bowen Cole o Abertawe, sydd wedi arwyddo cytundeb gydag asiantaeth fodelu eleni yn dweud bod hunan hyder yn elfen fawr o’r diwydiant.
"Pan fi’n mynd i unrhyw castings mae nhw wastad yn dweud paid â gwneud unrhyw beth gyda gwallt ti."
Er bod Bowen wedi pryderu am ba fath o driniaeth fyddai’n ei gael wrth gychwyn ei yrfa fel model Du o Gymru, mae ei brofiad wedi bod yn un positif ac mae wedi cael ei ganmol am ei edrychiad - ond mae profiadau pobl ddu eraill yng Nghymru wedi bod yn wahanol.
Yn ôl Jesse Osei o Gaerdydd, mae hi’n fwy o sialens i fodelau Du lwyddo ym maes modelu, gyda chwestiynau yn codi o amgylch cynrychiolaeth a thriniaeth pobl ddu neu o gefndioedd ethnig.
“Prif bryder fi oedd sut fydd pobl yn edrych arna i", meddai.
“Yn dibynnu ar yr asiantaeth, maen nhw’n gallu bod yn fwy llym… yn enwedig gyda gwallt. Fydde chi’n gyffredinol yn gweld asiantaeth yn dweud wrthon ni i dorri’n gwallt, a menywod yn benodol.
“Gyda modelu, dydych chi ddim yn gwybod os yw hyn wedi’i seilio ar steroteipiau neu feddylfryd… does dim ffordd o wybod yn llwyr”.
Ychwanegodd Jesse: “Mae’r pobl dwi di gweithio gyda yn ffantastig… oedd yna photoshoot lle oeddwn i’n trio bod yn brofesiynol heb wenu… ond erbyn y diwedd oeddwn i’n chwerthin trwy’r peth.”
Mae Khethiwe Ncube o Sir Fôn wedi bod yn modelu ac yn cystadlu mewn cystadlaethau harddwch am dros chwe blynedd.
Yn ôl Khethiwe, mae anwybodaeth yn broblem fawr o fewn y diwydiant modelu.
“Mae ’na bobl sydd ddim wedi eu haddysgu am fy nghroen, fy ngwallt.
“Oedden ni gefn llwyfan gyda modelau arall… a dwedodd steilwyr gwallt: 'oce, ni’n mynd am gwallt cyrliog'… felly oedde nhw yn cyrlio gwallt y merched, roedde nhw i gyd yn wyn.”
Wrth iddyn nhw geisio cyrlio gwallt Khethiwe, roedd rhaid iddi stopio’r steilydd gan esbonio y byddai rhoi gwres ar wallt synthetig yn gwneud niwed i’w gwallt hi.
“Oedde nhw ddim yn deall o gwbl… wnes i geisio cuddio ar un pryd… o’n i jyst wedi blino esbonio i bobl am fy ngwallt.”
Mae Khethiwe yn parhau i geisio cynyddu cynrychiolaeth modelau du.
“Does dim digon, does dim llawer [o gynrychiolaeth].
“Mae pobl arall yn meddwl ‘dwi methu gwneud hwnna. Does neb yn mynd i fwcio fi am swydd oherwydd dwi ddim yn edrych fel y bobl arall’.”