'Hanner amser yn unig': Cymru angen buddugoliaeth yn erbyn Slofacia
'Hanner amser yn unig': Cymru angen buddugoliaeth yn erbyn Slofacia
Bydd angen i Gymru ennill yn erbyn Slofacia nos Fawrth i gadw eu gobeithion o gyrraedd Euro 2025 yn fyw.
Collodd tîm Rhian Wilkinson 2-1 yn y cymal cyntaf yn Slofacia nos Wener diwethaf.
Fe ddaeth Jess Fishlock oddi ar y fainc yn y gêm honno a chreu gôl olaf Cymru. Fe fydd y chwaraewr canol cae yn dechrau'r gêm nos Fawrth.
Fe fydd unrhyw beth llai na buddugoliaeth yn golygu y byddan nhw allan o'r gemau ail-gyfle gan fethu â chyrraedd prif gystadleuaeth ryngwladol unwaith eto.
Dywedodd capten Cymru, Angharad James cyn y gêm bod angen i Gymru "ddechrau'n glou" nos Fawrth yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
"O'dd y perfformiad nos Wener yn siomedig, ma'r dyddiau ar ôl y gêm wedi bod yn galed, trial cael pawb lan ar ôl bod mor isel.
"I gael y perfformiad yn well nos fory sy'n bwysig, felly mae'n bwysig i ni ddod at ein gilydd a rhoi'r ffocws i gyd ar y gêm.
"Dim ond hanner amser yw hi a ma’n bwysig bod ni gyd yn barod i neud y newidiadau a gwella perfformiad ni.
"Ma' angen ni bod mas o'r blocks yn gynnar, dechrau'n gloi, a dim ond un gôl sydd ynddi a bydd y perfformiad yn well tro yma."
Angen buddugoliaeth
Nid yw'r rheol goliau oddi cartref yn rhan o gemau ail-gyfle Euro 2025.
Mae hynny'n golygu pe bai Cymru yn ennill 1-0, fe fydd y sgôr dros y ddau gymal yn 2-2.
Byddai hynny'n golygu amser ychwanegol. Ac os fydd na fydd enillydd wedi hynny, yna'r ciciau o'r smotyn.
Fe fydd enillydd y gêm yn herio Gweriniaeth Iwerddon neu Georgia yn y rownd derfynol, ond mae'n debygol mai Gweriniaeth Iwerddon fydd yr enillwyr wedi iddyn nhw ennill 6-0 yn y cymal cyntaf.
Bydd enillydd y rownd derfynol yn hawlio eu lle yn Euro 2025 yn y Swistir.
Cyrhaeddodd Cymru rownd derfynol y gemau ail gyfle yn 2022, cyn colli 2-1 yn erbyn y Swistir.
'Nerfus'
Un cefnogwr sydd yn gwylio gemau merched Cymru yn rheolaidd yw Gwenllian Evans.
Mae'r fenyw ifanc o Gaerdydd yn teimlo'n nerfus cyn gêm nos Fawrth, ond yn credu bod gan Gymru'r gallu i ennill.
'Fi’n teimlo’n nerfus iawn i’r gêm- mae gemau ail-gyfle wastad yn boenus," meddai.
'Rwy’n gobeithio gweld Ffion Morgan eto’n serennu, yn ogystal â Ceri Holland ac Angharad James ein capten.
"Edrychaf ymlaen i weld effaith chwaraewyr fel McAteer yn chwarae a chael effaith ar y gêm, yn enwedig ar ôl iddi sgorio gôl gwych yn erbyn Kosovo ym mis Gorffennaf."
Er iddi gredu bod Cymru yn gallu ennill, mae'r atgof o golli i'r Swistir yn 2022 yn dal yn fyw yn y cof.
"Bydd colli yn gwbl torcalonnus- fi’n credu bod y merched dal yn brifo ers y golled yn erbyn y Swistir yn y gemau ail-gyfle diwethaf i fynd i Gwpan y Byd.
"Dyma’r cyfle gore sy gyda ni i gyrraedd prif gystadleuaeth ryngwladol, ac mae’n gyfle olaf i lawer o sêr y gem merched fel Fishlock ac Ingle i gyrraedd ffeinal cystadleuaeth gyda Chymru."