Llo bongo prin yn cael ei eni mewn parc saffari
Mae parc saffari wedi croesawu un o'r anifeiliaid ar y blaned sydd o dan fwyaf o berygl o ddiflannu.
Fe gafodd y llo bongo mynydd dwyreiniol ei eni ar 16 Hydref ym Mharc Saffari Woburn, sef y tro cyntaf i'r anifail gael ei eni yn y parc ers dros 10 mlynedd.
Dywedodd y parc fod yr enedigaeth yn "llwyddiant mawr nid yn unig i'r parc ond hefyd i ymdrechion cadwraeth rhyngwladol".
Mae llai na 100 o'r rhywogaeth bellach yn bodoli.
Dywedodd Pennaeth Gwarchodfeydd y parc Tom Robson: "Mae'r bongo y rhan o raglen frîdio allweddol ac rydym ni'n gobeithio yn y dyfodol y bydd ein llo newydd yn cael ei drosglwyddo i gasgliad bywyd gwyllt arall a chychwyn grŵp brîdio ei hun."
Fe gyrhaeddodd tad y llo y parc fis Tachwedd diwethaf fel rhan o raglen rheoli rhywogaethau mewn perygl y Gymdeithas Ewropeaidd Sŵau ac Acwariwm (EAZA).
Mae'r rhywogaeth bongo mynydd dwyreiniol yn cael ei rhestru fel un sydd mewn perygl difrifol gan Restr Goch Yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN), gyda phoblogaethau yn cael eu heffeithio'n fawr gan hela a cholli cynefinoedd.