Newyddion S4C

'Shambls llwyr': Pryder wrth i Lywodraeth San Steffan ail-ddechrau y broses o benodi Cadeirydd S4C

Newyddion S4C 25/10/2024

'Shambls llwyr': Pryder wrth i Lywodraeth San Steffan ail-ddechrau y broses o benodi Cadeirydd S4C

Mae cyn-Brif Weithredwr ar S4C wedi dweud y gallai'r darlledwr wynebu "shambls llwyr" o ran gweinyddiaeth.

Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Arwel Ellis Owen, sydd hefyd yn gyn-bennaeth ar y BBC yng Ngogledd Iwerddon na fyddai Llywodraeth San Steffan yn trin y BBC yn yr un modd ag y mae'n trin y darlledwr Cymraeg.

Daw hyn wedi i raglen Newyddion S4C gael cadarnhad bod adran y DCMS yn Llywodraeth San Steffan yn ail-ddechrau ar y broses o benodi Cadeirydd S4C, chwe mis wedi i'r hysbyseb gwreiddiol ymddangos.

Dywedodd y DCMS, adran dros ddiwylliant, y celfyddydau a chwaraeon Llywodraeth San Steffan bod penodi cadeirydd ac aelodau bwrdd S4C yn broses bwysig a'u bod nhw eisiau gwneud y penodiadau cywir.

Ar hyn o bryd, mae pum aelod anweithredol ar fwrdd S4C, sydd yn gyfrifol am oruchwyli gwaith y swyddogion cyflogedig.

Mae tymor pedwar o'r pum aelod yna yn dod i ben yn y pum mis nesaf.

Yn gynharach eleni, nododd adroddiad gan bwyllgor cyfrifon cyhoeddus San Steffan bod penodiadau i fyrddau cyhoeddus cyrff cyhoeddus yn cymryd 203 o ddiwrnodau ar gyfartaledd.

Mae Arwel Ellis Owen yn rhybuddio am oblygiadau oedi ar y darlledwr.

"Mae 'na beryg y bydd gennych chi swyddogion newydd sbon ac ar ei waethaf, un aelod annibynnol fydd ar ôl am fod tymhorau y lleill yn dod i ben yn fuan iawn," meddai.

"Mae hynny'n shambls llwyr. Mae'n anodd gen i gredu byddai'r DCMS a swyddogion yn fanno heb son am y Gweinidog yn gwneud yr un peth i'r BBC. Fydden nhw ddim yn gwneud hynny.

"Dyw'r math yma o newid rheolau a newid dyddiau ac yn y blaen ddim yn help o gwbl i ailsefydlu y sianel wedi cyfnod gwael."

'Anghywir'

Mae wedi bod yn gyfnod tymhestlog i S4C, gyda dau brif swyddog yn cael eu diswyddo a chyn-gadeirydd hefyd yn gadael wedi honiadau di-ri o fwlio a chambihafio dros y deunaw mis diwethaf.

Mae'r Prif Weithredwr a Chadeirydd dros dro presennol, Sioned Wiliam a Guto Bebb, wedi dweud nad ydyn nhw am wneud y swyddi yn barhaol.

Gyda'r dyddiad cau am brif weithredwr bellach wedi bod, mae Arwel Ellis Owen hefyd yn teimlo bod y drefn benodi yn anghywir.

"Os oes rhywbeth wedi dod allan o'r llanast fu yn S4C dros y 15 mlynedd diwethaf (dwy brif weithredwr a dau gadeirydd yn gadael) hwn ydy bod aelodau'r awdurdod a'r cadeirydd yn benodol yn eithriadol o bwysig," meddai.

"I fi, mae penodi Prif Weithredwr yn gyntaf yn anghywir. Os oes argyfwng... yr awdurdod a'r Cadeirydd yw lle mae'r buck yn stopio."

Dywedodd llefarydd ar ran S4C "Rydyn ni’n croesawu’r newyddion bod y DCMS ar fin dechrau proses i benodi Cadeirydd, ac yn edrych ymlaen at dderbyn aelodau newydd i Fwrdd S4C."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.