Newyddion S4C

'Teimlad gorau erioed': Dychwelyd i'r cae rygbi 10 mis ers diagnosis tiwmor yr ymennydd

29/10/2024

'Teimlad gorau erioed': Dychwelyd i'r cae rygbi 10 mis ers diagnosis tiwmor yr ymennydd

Mae bachgen 16 oed o Sir Gâr wedi dychwelyd i'r cae rygbi a rhedeg Hanner Marathon Caerdydd 10 mis ers iddo dderbyn diagnosis tiwmor yr ymennydd.

Newidiodd byd Finn Jones o Landybie yn llwyr ym mis Tachwedd 2023. Ar ôl prawf llygaid, cafodd gyngor i fynd i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin yn syth.

“O’n i’n cysgu llawer, o fi’n cael pen tost, mynd yn sick yn y bore, o’dd hwnna’n mynd ‘mlaen ambiti mis," meddai Finn wrth Newyddion S4C.

"Gathon ni eye test, felly o’n i wedi mynd i Specsavers i Rhydaman a nathon nhw ddweud bod angen mynd syth i Glangwili.

“O’n i ‘di cael CT scan a MRI, a o’dd ni’n aros am oriau a wedyn o’n nhw wedi dweud o’dd e’n brain tumor."

Roedd Finn yn ddisgybl yn Ysgol Bro Dinefwr ac yn chwarae rygbi i dimau iau Llandeilo ar y pryd.

Dywedodd ei dad, Grant bod y newyddon yn si0c enfawr.

“Pan geson ni’r newyddion lawr yn Glangwili, y peth diwetha’ o’n i’n erfyn rili," meddai.

“O’dd y byd yn dod ar ben do fe? Quite simply nag o’n ni’n gwybod beth i neud, o’n ni’n deall dim amdano fe.

" 'Na gyd o’dd Finn yn complaino yw bod pen tost ‘da fe yn y bore. O’dd e dal yn chware rygbi, dal yn traino, popeth yn normal.

Image
Grant a Finn Jones
Grant a Finn Jones ar y cae gyda Chlwb Rygbi Llandeilo. Llun: Grant Jones

Cafodd Finn ei gludo mewn ambiwlans i ysbyty yng Nghaerdydd ar gyfer triniaeth frys er mwyn tynnu'r hylif allai o'i ben.

Doedd canlyniadau'r biopsi cyntaf yn yr ysbyty ddim yn glir, felly penderfynodd meddygon ddechrau llawdriniaeth i gael gwared â'r tiwmor.

Ond roedd ail biopsi wedi canfod bod canser yn y tiwmor a bu'n rhaid iddo fynd i Lundain am driniaeth chemotherapi.

Dywedodd ei fam, Andrea: “Doedd e ddim tan yr ail lawdriniaeth wnaethon nhw ddweud bod canser yn y tiwmor.

"Roedd hwnna'n sioc llwyr."

Ychwanegodd Finn: "O'dd popeth yn mynd trwyddo fy nghorff, its the last thing o ti’n meddwl sydd yn digwydd."

Treuliodd Finn rai misoedd yn Llundain wrth iddo dderbyn triniaeth chemotherapi a therapi proton.

Yn ystod y driniaeth fe gollodd Finn y gallu i weld am tua mis, ac nid oedd yn gallu agor ei lygaid.

Yn ogystal roedd yn rhaid iddo ddysgu i gerdded eto ac fe gollodd ei wallt a llawer o bwysau.

“O’dd e’n ofni fi llawer. O fi ffili gweld, o’n i’n ddall ambiti mis a ffili codi llygaid fi. O’dd fi hefyd gorfod dechre dysgu i gerdded eto o’dd yn rili galed," meddai.

Image
Finn Jones yn derbyn triniaeth
Bu rhaid i Finn ddysgu i gerdded eto. Llun: Grant Jones

'Teimlad gorau erioed'

Ddeufis ar ôl i'r therapi proton ddod i ben, cafodd Finn wybod bod y tiwmor wedi diflannu.

Roedd yn rhyddhad mawr i Finn, ei rieni a'r gymuned yn Sir Gaerfyrddin a oedd yn gefn i'r teulu yn ystod y misoedd anodd.

“Best news we’ve had. Syth i’r tŷ a o’dd ffrindiau a teulu wedi dod rownd a o’dd ni wedi cael massive party," meddai Finn.

“Ti’n cael goosebumps dros corff ti gyd... y best feeling ever, fi byth wedi teimlo fel hwnna."

Mae ei fam, Andrea a'i dad, Grant yn ddiolchgar i'r holl gymuned ac i staff y Gwasanaeth Iechyd am yr holl gymorth y maen nhw wedi ei dderbyn fel teulu.

"Doedden ni ddim wedi gadael ein hun i feddwl am y sefyllfa waethaf," meddai Andrea.

"Dwi'n meddwl, pan mae'r gymuned yn dod at ei gilydd, mae'n rhoi'r cymhelliant yna i chi i beidio ildio, doeddwn i methu cydnabod y sefyllfa waethaf."

Ychwanegodd Grant: “O’n ni’n cael scans yn aml, so o’n ni’n gwybod bod e wedi cael yr all clear. O’n i’n okay gyda’r ffaith bod dim byd na ragor, ond yn actually canu’r cloch 'na ac yn gwybod bod y canser wedi mynd, o'dd hwnna'n emotional.

“Ma fe yn newid ti. O’dd rhaid i Finn tyfu lan dros nos. A’th e mewn i’r ysbyty yn bachgen bach a o’dd rhaid e tyfu lan yn glou. 

“Ni wedi cael cefnogaeth gan glybiau rygbi lleol ac ar draws y byd. Clwb rygbi Rhydaman a Llandeilo, pan o’dd Finn yn colli gwallt e nathon nhw gyd siafo’u gwallt i Finn, o’dd e jyst yn emosiynol iawn.”

Image
Finn Jones a'i rieni
Andrea, Finn a Grant Jones yn yr ysbyty. Llun: Grant Jones

'Fel baban yn cerdded am y tro cyntaf'

Wedi i'r tiwmor ddiflannu roedd Finn yn ysu i ddychwelyd i'r cae rygbi gyda Llandeilo.

Yn ogystal fe benderfynodd ymgymryd â'r her o redeg Hanner Marathon Caerdydd i elusen Hopes and Dreams, oedd yn gymorth enfawr iddo ef a'i deulu.

“Pan o fi’n mynd trwyddo’r cancer, o’n i byth yn meddwl bo' fi mynd i fynd nôl i rygbi," meddai Finn.

"Ble fi yn nawr ma fe jyst yn miracle, o’dd neb yn meddwl bod fi mynd i fynd nôl i rygbi nawr.

“Roedd fi wedi penderfynu rhedeg yr hanner marathon syth ar ôl fi gorffen popeth.

"A’r bois o’dd wedi neud e gyda fi, o’dd nhw wedi neud e heb second thought,pan ma’r bois yn neud e ma bach o wmff gyda ti."

Dywedodd mam Finn, Andrea bod gweld Finn yn dychwelyd i'r cae rygbi ac adeiladu ei gryfder eto fel gwylio baban yn cymryd ei gamau cyntaf.

"Dwi'n meddwl oedd Finn yn credu y byddai ddim yn gallu reidio beic eto, ond i weld e'n cymryd pethau fel'na o ddydd i ddydd, mae e fel gwylio eich baban yn cerdded am y tro cyntaf.

"Rydym ni mor browd ohono."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.