Disgwyl i waith celf o fanana ar wal werthu am dros £1m

25/10/2024
banana PA

Mae disgwyl i ddarn o waith celf sy’n arddangos banana wedi ei lynu i wal gael ei werthu am dros £1 miliwn mewn ocsiwn.

Mae’r gwaith, o’r enw Comedian, gan Maurizio Cattelan wedi hollti barn beirniaid y byd celf ers iddo gael ei arddangos gyntaf yn 2019 yn y sioe Art Basel yn Miami Beach.

Mae’r banana wedi ei fwyta ddwywaith mewn arddangosfeydd, unwaith fel rhan o berfformiad celfyddydol o’r enw Hungry, ac unwaith gan fyfyriwr a wnaeth lynu’r croen yn ôl i’r wal ar ôl ei fwyta.

Cyn yr ocsiwn, fe fydd y darn yn mynd ar daith o gwmpas y byd, gan ddechrau gydag arddangosfa arbennig yn Efrog Newydd ar 28 Hydref.

Yna, fe fydd yn teithio i Lundain, Paris, Milan, Hong Kong, Dubai, Taipei, Tokyo a Los Angeles.

Bydd yn dychwelyd i Efrog Newydd rhwng 8 Tachwedd a 20 Tachwedd, cyn ocsiwn Now and Contemporary Art yn Sotheby’s.

Mae arbenigwyr yn amcangyfrif y bydd yn cael ei werthu am rhwng $1 miliwn (£771,275) a $1.5 miliwn (£1.2 miliwn), gydag un arbenigwr yn dweud, “fe fydd y cyhoedd yn penderfynu ar ei wir werth”.

Llun: Wochit/Getty

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.