Newyddion S4C

‘Annhegwch sylfaenol’: Eluned Morgan ‘ddim yn disgwyl’ arian HS2 yn y gyllideb

24/10/2024
Eluned Morgan

Mae’r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi dweud nad yw’n “disgwyl” cael cyfran Cymru o arian HS2 yn y gyllideb er bod yna “annhegwch sylfaenol” yno.

Dywedodd wrth raglen Wales Live y byddai hi’n parhau i gyflwyno’r achos i Gymru gael siâr o’r arian hyd yn oed os nad yw’n dod yng nghyllideb y Canghellor Rachel Reeves ddydd Mercher.

Mae HS2 wedi bod yn destun dadlau gwleidyddol ers sawl blwyddyn wedi iddo gael ei ddynodi yn brosiect ar gyfer ‘Cymru a Lloegr’, er nad oes unrhyw ran o’r cynllun wedi ei leoli yng Nghymru.

Mae Plaid Cymru wedi dadlau y dylai Cymru gael £4 biliwn o arian ychwanegol, fel ‘cyfran deg’ o’r arian sydd wedi ei neilltuo ar gyfer y prosiect, a hynny yn seiliedig ar fformiwla Barnett.

Mae Llafur wedi dweud bod y ffigwr yn agosach at £350m gan na chafodd HS2 ei gwblhau yn ôl y cynllun gwreiddiol.

'Parhau i drafod'

“Rydw i wedi cael trafodaethau ar sawl achlysur erbyn hyn, a fydda i ddim yn gwybod canlyniad y trafodaethau rheini nes y gyllideb ei hun,” meddai Eluned Morgan.

“Rydw i wedi ei wneud yn glir iawn ar bethau fel y rheilffordd gyflym, er enghraifft, ein bod yn meddwl bod yna annhegwch sylfaenol gyda hynny.

“Hoffwn i weld rhai newidiadau ar hynny.

“Ond a fyddwn yn ei gael yn y gyllideb hon - dydw i ddim yn siŵr.”

Ychwanegodd: “Mae yna egwyddor sylfaenol yn y ffaith na fydd y rheilffordd gyflym o fudd i Gymru mewn gwirionedd. 

“Fe ddylen ni fod mewn sefyllfa lle y cawn ni ein cyfran o’r hyn sydd wedi’i wario hyd yn hyn. 

“A dyna'r ffigwr ydan wedi bod yn gofyn amdano o'r hyn sydd wedi'i wario hyd yn hyn. 

“Roedd yn gyfrifiad a wnaethon ni o dan y Torïaid, sef tua £350m.

“Ond dydw i ddim yn disgwyl ei gael yng nghyllideb yr hydref, ond byddwn yn bendant yn parhau i drafod gyda nhw a gweld beth yr ydyn ni yn mynd i'w gael. 

“Fe fyddwn ni yn parhau i drafod gyda nhw a chyflwyno’r achos, ond dydw i ddim yn disgwyl i hynny ddod yn y gyllideb benodol hon.”

‘Ddim yn hawdd’

Ychwanegodd Eluned Morgan ei bod yn gobeithio gweld cyhoeddi hwb "sylweddol" i gyllid y GIG yn y gyllideb.

“Yr hyn rydw i’n gobeithio amdano yw y bydd gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu diogelu,” meddai.

“Rydw i’n awyddus iawn i weld arian newydd i’r GIG yn Lloegr oherwydd byddwn wedyn yn cael swm sylweddol o arian a ddaw i Gymru o ganlyniad i hynny."

Dywedodd ei bod hi’n disgwyl i bethau fod yn well i Gymru yn ariannol yn y tymor hir nag oedd o dan 14 mlynedd o lywodraeth Geidwadol.

“Nid yw’n mynd i fod yn hawdd ond rwy’n gobeithio y bydd [y gyllideb] yn ddechrau ar y gwaith ac y bydd yn wahanol iawn," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.