Cais i gynnal ffeinal Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA 2027 yng Nghaerdydd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru am gyflwyno cais swyddogol er mwyn cynnal rownd derfynol pencampwriaeth Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA 2027 yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.
Roedd y gymdeithas eisoes wedi dweud eu bod â diddordeb i gynnal y digwyddiad. Ond bellach mae nhw wedi cadarnhau y bydd cais ffurfiol yn cael ei gyflwyno
Mae ceisiadau o’r fath hefyd wedi eu cyflwyno gan Wlad Pwyl ar gyfer y Stadiwm Genedlaethol yn Warsaw, Sbaen ar gyfer Camp Nou yn Barcelona, a’r Swistir ar gyfer Parc Sant Jakob yn Basel.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y byddai cynnal y digwyddiad yng Nghaerdydd yn “llwyddiant aruthrol” i Gymru gyfan.
Byddai hefyd yn “ysbrydoli’r” genhedlaeth newydd o chwaraewyr pêl-droed yng Nghymru, medden nhw.
Bydd rhaid i'r Gymdeithas Bêl-droed Cymru cyflwyno eu cynlluniau terfynol erbyn 19 Mawrth 2025.
Fe fydd Pwyllgor Gwaith UEFA yn cyhoeddi pa wlad fydd yn cynnal rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA 2027 ym mis Mai 2025.
Mae dinas Caerdydd eisoes wedi bod yn gartref i rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA 2017 yn Stadiwm Dinas Caerdydd – yn ogystal â rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA 2017 yn Stadiwm Principality.