Newyddion S4C

'Mae hawl 'da nhw i ddyfodol': Galw am dro pedol gan Gyngor Powys ar bolisi trafnidiaeth

Newyddion S4C

'Mae hawl 'da nhw i ddyfodol': Galw am dro pedol gan Gyngor Powys ar bolisi trafnidiaeth

Mae teuluoedd tri bachgen yn eu harddegau yn gofyn i Gyngor Sir Powys i ail ystyried eu polisiau trafnidiaeth ysgol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Os nad yw hynny’n digwydd mae’n nhw’n rhybuddio nad oes dyfodol i’w plant.

Tan fis Gorffennaf roedd Joshua, Tom ac Evan yn ddisgyblion yn Ysgol Maes y Dderwen yn Ystradgynlais. 

Gyda’r bechgyn erbyn hyn yn 16 ac 17 oed eu bwriad oedd dechrau yng Ngholeg Bannau Brycheiniog ym mis Medi,  ond dyw hynny ddim wedi digwydd.

Dywedodd hen fodryb Joshua, Sue Davies: “Safon addysg Joshua yw oedran pump i chwe mlwydd oed, safon darllen pump i chwe mlwydd oed sydd gyda fe, a fase chi’n dodi crwt ar y bws hefo myfyrwyr eraill sydd a dealltwriath pump i chwe mlwydd oed, a fyse chi? Mae’n beryglus ofnadwy i finne.” 

Mae’r coleg rhyw 30 milltir i ffwrdd o gartrefi’r bechgyn. Does dim dyletswydd statudol ar y cyngor i ddarparu trafnidiaeth i’r plant. Er hynny, mae nhw wedi cynnig tocynnau am ddim i’r bechgyn ac i chaperone i ddal bws cyhoeddus.

"Bydden i’n bryderus iawn biti rhoi Tom ar y bws achos bydde fe ddim yn saff ar y bws, a nage dim ond diogelwch Tom ond diogelwch rhywun arall achos ma fe’n gallu, ambell waith os yw e’n teimlo’n anxious  bwrw mas ar bobl.” meddai Cath Shannon, Mam-gu Tom.

“Mae’n hala colled arnai bod e ddim yn gallu mynd. Ma nhw wedi cydnabod bod cognitive complexities efo’r bois ma, a bo nhw absolutely off the scale, ond yr unig be allan nhw wneud yw rhoi concessionary passes ma, achos sdim “statutory obligation” efo nhw a so nhw moyn creu precedent. Sai’n deall y peth," ychwanegodd Sue Davies.

'Edrych arnyn nhw fel plant'

Erbyn hyn dyw’r plant ddim wedi cael addysg ers rhyw saith wythnos. Mae’r teuluoedd yn gofyn i’r cyngor ail-ystyried, ac edrych ar opsiynau fel bod modd iddyn nhw gyrraedd y coleg a pharhau â'u haddysg. 

Os nad yw hynny’n digwydd mae nhw’n poeni na fydd dyfodol i’r plant.

“Mae awtistiaeth gyda fe, ADHD, dau gyflwr genetig ac fe nath e  ddatblygu epilepsy y llynedd, felly mae gyda fe lot i ddelio ag e, heb hyn. 

"Plis newch chi edrych arnyn nhw fel plant, peidiwch edrych arnyn nhw fel enw a rhif ar ddarn o bapur," meddai Cerys Owen, mam Evan.

“Mae pobl yn dweud, 'chi’n gorfod cael gwared ar y benefit culture ma', wel be ma nhw’n neud te os nad ydyn nhw’n fodlon rhoi help iddyn nhw i fynd i goleg, be ma nhw’n neud i’r bois ma? Mae hawl da nhw i neud rhywbeth efo’u bywydau, i gael dyfodol,” ychwanegodd Sue Davies.

Mewn ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys nad oedd modd iddyn nhw wneud sylw ar achosion unigol, ond eu bod nhw’n ystyried anghenion pob disgybl yn unigol pan fo angen trefnu trafnidiaeth i ysgol neu goleg, a bod unrhyw gynnig sy’n cael ei wneud yn cyd-fynd a’u canllawiau trafnidiaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gan bob plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol, beth bynnag y bo lefel eu hanghenion, hawl i gynllun statudol a elwir yn Gynllun Datblygu Unigol (CDU) lle gellir nodi eu gofynion o ran cludiant.” 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.