Newyddion S4C

Carcharu dyn o Ynys Môn am ymosodiad rhyw ar ferch

Dafydd Emrys Owen

Mae dyn o Ynys Môn wedi cael ei garcharu am dair blynedd am ymosod yn rhywiol ar ferch yn ei harddegau, ar ôl cynnig alcohol iddi. 

Clywodd y llys fod Dafydd Emrys Owen, 45, o Faes y Waen ym mhentref Llanfairpwll wedi ceisio ffurfio cyfeillgarwch â'r ferch drwy anfon negeseuon ffôn chwareus ati hi. 

Clywodd y gwrandawiad hefyd iddo ei chusanu ar ei brest.   

Cafodd ei ddyfarnu'n euog fis diwethaf. 

Dywedodd y bargyfreithiwr ar ran yr amddiffyniad Dafydd Roberts:"Mae e'n dal i fynnu na wnaeth e hyn." 

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Nicola Saffman wrth Owen fod ei ymosodiad rhyw wedi cael effaith sylweddol. 

Bydd Dafydd Emrys Owen yn cael ei gadw ar y gofrestr troseddwyr rhyw am gyfnod amhenodol. 

Llun: Heddlu Gogledd Cymru 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.