Cyflwyno gwaharddiad llym ar fathau o arfau yn y DU
Mae gwaharddiad llym ar fathau o gyllyll, arfau a drylliau penodol wedi dod i rym yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r newid yn rhan o gynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig i leihau troseddau difrifol.
Gyda bwriad o dargedu'r arfau mwyaf treisgar, mae cyllyll seiclon, cyllyll troelli, a drylliau tanio ‘sydyn’ bellach wedi eu gwahardd.
Mae defnydd o’r arfau mewn llefydd cyhoeddus eisoes mewn grym ers 1988, ond fe fydd hi nawr yn anghyfreithlon i feddu’r arfau mewn mannau preifat.
Bydd rheolau llymach hefyd mewn grym ar gyfer cyllyll chwipio (flick knives).
Fe all y rhai sy’n meddu dryll tanio wynebu 10 mlynedd o garchar, gyda dedfryd o hyd at chwe mis, yn ogystal â dirwy ar gyfer yr arfau gwaharddedig eraill.
‘Niwed dinistriol’
Dywedodd Sacha Hatchett, Prif Gwnstabl Cynorthwyol am Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’r niwed sy’n cael eu hachosi i deuluoedd a chymunedau drwy farwolaeth oherwydd cyllell yn ddinistriol, a dyna pam mae’r heddlu’n canolbwyntio ar y mater hwn.
“Rydym yn croesawu’r newidiadau i’r ddeddf hon. Mi fydd y mesurau hyn yn helpu swyddogion i atafaelu mwy o arfau peryglus, delio â’r rhai sy’n achosi niwed, ac yn bwysicach oll, ei gwneud hi’n anodd iawn i bobl ifanc gael gafael ar gyllyll ac eitemau peryglus eraill.”
Mae Gweinidog y Swyddfa Gartref, Priti Patel wedi dweud nad oes “lle mewn cymdeithas ar gyfer trosedd treisgar sy’n cael ei achosi gan arfau megis cyllyll a drylliau.
“Mae bywydau wedi cael eu colli oherwydd hyn, ac mi fydd y gwaharddiad yma yn helpu arbed bywydau drwy gael gwared â’r arfau yma oddi ar y strydoedd ac allan o ddwylo troseddwyr,” meddai.
“Mae’r niwed sy’n cael ei achosi drwy drosedd treisgar yn annerbyniol, a dyna pam mae’r llywodraeth yn cyflwyno’r pwerau yma er mwyn eu hatal rhag digwydd a gwarchod y cyhoedd.”
Llun: Heddlu Gogledd Cymru