
Sylwadau Mark Drakeford am y diciâu mewn gwartheg yn 'greulon'

Sylwadau Mark Drakeford am y diciâu mewn gwartheg yn 'greulon'
Mae ffermwraig sydd wedi colli nifer o wartheg i'r diciâu wedi disgrifio geiriau’r Prif Weinidog am y clefyd fel rhai creulon.
Mewn cyfarfod yn y Senedd, fe ddywedodd Mark Drakeford mai symud gwartheg oedd yn gyfrifol am y cynnydd mewn nifer o achosion o'r clefyd yng Nghymru.
"Ffermwr yn prynu anifeiliaid oedd wedi'u heintio ac yn dod â nhw i'r ardal" oedd tu ôl i'r cynnydd mewn ardaloedd cymharol lân, medd Mr Drakeford.
Mae ffermwyr a'r undebau yn pwysleisio fod gwartheg yn mynd trwy broses o brofi cyn eu gwerthu a'u cludo i ffermydd eraill.
Dywedodd Abi Reader, sydd wedi colli 21 o wartheg yn ddiweddar, iddi "weld coch" pan glywodd sylwadau'r Prif Weinidog.
Mae hi'n ffermio yn ardal Bro Morgannwg, sydd dan risg canolradd o'r diciâu.
"Fe safodd yno a dweud bod ffermwyr yn gyfrifol am greu ein problemau ein hunain - roedd hynny mor greulon.
"Roedd yn teimlo ei fod o wedi bwrw'r gyllell i mewn, cyn troi'r llafn o un ochr i'r llall."

Mae Simon Davies wedi colli pump ar hugain o wartheg i'r diciâu - ar ei ffarm laeth yn Eglwyswrw sydd yn yr ardal o dan fesurau llym.
“Mae'n galed chi'mod. Chi'n codi yn fore a chi'n trial meddwl pa ffordd allan sydd 'da ni," meddai.
"Y ffaith bod Mark Drakeford wedi gweud bod ni'n symud TB mewn i ardal iseldir sydd rhywbeth sydd ddim yn ishte yn gyfforddus iawn 'da ni achos mae pob anifail sy'n cael ei symud sydd braidd dros 'wech wythnos oed yn cael eu testo a ni ffili credu bod e wedi meddwl i gweud shwd fath beth i gweud y gwir.”
Roedd Mr Drakeford yn ymateb i gwestiynau gan y Ceidwadwyr pan ddywedodd y sylwadau, gan gadarnhau na fydd moch daear yn cael eu difa yng Nghymru.
Dywed y llywodraeth fod "asesiad epidemiolegol" wedi dangos fod wyth o bob 10 achos o'r diciâu mewn ardaloedd â lefelau isel o'r afiechyd wedi'u hachosi gan symudiadau gwartheg.
Mae Mark Drakeford wedi dweud nad oedd am beri loes i unrhyw un yn sgil ei sylwadau, ond mae'r undebau yn flin.
Mae undeb NFU Cymru wedi gofyn am gyfarfod gyda'r Prif Weinidog, gyda'r llywodraeth yn cadarnhau y bydd yn ymateb i'r cais "maes o law".

Dywedodd Nick Fenwick o Undeb Amaethwyr Cymru: “Mae'n anffodus iawn bod y gwleidyddion sydd yn rheoli Cymru ar hyn o bryd ddim isho cydnabod y broblem. Ac mae o'n fater gwleidyddol ac nid mater gwyddonol ydi o ar ddiwedd y dydd achos mae'r wyddoniaeth yn hollol glir. Mae Lloegr wedi llwyddo lleihau'r niferoedd o wartheg sydd efo tb yn sylweddol. Bron 70% yn un ardal lle maen nhw 'di difa moch daear. Mae hwnna'n rhywbeth 'di Cymru dim ond yn gallu breuddwydio am.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai'r ffordd i ateb yr her enfawr ydy sicrhau fod cyd-weithio rhwng y llywodraeth a'r diwydiant.
Roedd cynnydd diweddar mewn achosion yn Nyffryn Conwy, Sir Ddinbych a Phennal yn ymwneud gyda symud gwartheg i'r ardal, medd y llywodraeth - ac roedd hi'n hanfodol bod ffermwyr yn gwneud yr hyn maen nhw'n medru i amddiffyn eu hardal.