Dyn o Bort Talbot wedi marw ar ôl gwrthdrawiad yn y Bont-faen
17/10/2024
Mae dyn o Bort Talbot wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gar yn y Bont-faen ym Mro Morgannwg.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ychydig wedi 17.00 ar ddydd Mercher 16 Hydref, rhwng car Vauxhall Corsa coch a Land Rover Defender gwyrdd, ar ffordd yr A48.
Bu farw gŵr 35 oed o Bort Talbot, tra bod dyn arall wedi ei dywys i’r ysbyty gydag anafiadau.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu’r modd yr oedd naill gar yn cael ei yrru cyn y digwyddiad, i gysylltu â nhw.
Maen nhw hefyd yn apelio ar unrhyw un a allai fod â lluniau dashcam.
Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r llu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400345160.