Dynes sy'n byw â chlefyd motor niwron yn croesawu Bil Cymorth i Farw
17/10/2024
Dynes sy'n byw â chlefyd motor niwron yn croesawu Bil Cymorth i Farw
Mae Iola Dorkins yn gorfod gwneud hyn sawl gwaith y diwrnod er mwyn atal ei hun rhag tagu.
Mae'r nerfau i'w gwddf a'i gwar wedi stopio gweithio wrth i gyflwr Motor Niwron raddol gymryd ei hannibyniaeth ac yn y pendraw, ei bywyd.
Mae'n deud bod safon y bywyd hwnnw eisoes wedi dirywio'n arw iddi hi a'i gwr, Mike.
Mae isio rheoli sut a phryd y bydd hi'n marw.
Be 'dy'r petha anoddaf neu mwyaf rhwystredig am fywyd?
Sut daethoch chi at y casgliad eich bod eisiau'r hawl i benderfynu os dach chi'n byw neu beidio?
Dach chi isio'r hawl i ofyn i rywun helpu chi farw?
Sut oedd y sgwrs yna efo'ch teulu pan oeddech chi'n deud wrthynt sut oeddech chi'n teimlo?
I chi, Mike, sut oedd y sgwrs yna?
"Torcalonnus.
"Ond beth bynnag mae hi isio, mae'n berffaith efo fi.
"Dw i ddim isio iddi ddioddef, dyna'r oll.
"Mae fyny iddi hi, y penderfyniad yma.
"Dw i'n cefnogi hi 100%.
"Mae'r hogiau hefyd."
Be fysach chi'n deud wrth bobl sy'n teimlo bod hyn yn gam peryg ac yn gallu rhoi rhai pobl fel chi, y claf ond hefyd pobl fel Mike, fel gofalwr, mewn sefyllfa fregus?
Be fysach chi'n deud wrth rywun sy'n deud mai bywyd ydy'r peth mwyaf gwerthfawr posib a does gan neb hawl i ymyrryd efo fo a dod a fo i ben, beth bynnag ydy'r amodau?