Arestio dyn yn dilyn honiad o anhrefn cyhoeddus yng Nghaernarfon
16/10/2024
Mae dyn wedi ei arestio yn dilyn honiadau o anhrefn cyhoeddus yng Nghaernarfon ddydd Mawrth.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Maes Hyfryd o'r dref tua 14.30 brynhawn dydd Mawrth.
Dywedodd yr heddlu fod dyn wedi cael ei arestio o dan amheuaeth o achosi ffrwgwd a bod ag arf â llafn yn ei feddiant.
Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Ond mae'r heddlu yn parhau i apelio am dystion.