Unigolyn yn talu am awyren i ddod â chorff Alex Salmond yn ôl i'r Alban
Bydd corff cyn-Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, yn cael ei hedfan yn ôl o Ogledd Macedonia mewn awyren breifat wedi i unigolyn di-enw dalu am y daith.
Bu farw Mr Salmond o drawiad ar y galon tra'n mynychu cynhadledd dros y penwythnos.
Roedd cyfaill i Mr Salmond, yr Aelod Seneddol Ceidwadol David Davis, wedi galw ar yr Awyrlu i ddod â'i gorff yn ôl o ddinas Ohrid.
Ond mae asiantaeth newyddion PA ar ddeall fod unigolyn wedi cytuno i dalu am awyren breifat, fydd yn glanio yn Aberdeen.
Does dim sicrwydd eto pryd fydd yr awyren yn gadael Gogledd Macedonia.
Dywedodd Kenny MacAskill, arweinydd dros dro plaid Alba, y blaid gafodd ei ffurfio gan Alex Salmond: "Mae'r teulu'n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan ddinesydd preifat i drefnu awyren breifat fel bod modd dod â chorff Alex adref i'r Alban.
"Mae'n gysur mawr i Moira ac aelodau eraill o'r teulu i wybod y bydd adref gyda nhw yn fuan."