Marwolaeth Wrecsam: Cyhuddo dyn o lofruddiaeth
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad yn Rhosymedre, Wrecsam ar ddydd Sul 11 Gorffennaf.
Bu farw Kyle Walley oedd yn 19 oed yn ystod y digwyddiad.
Bydd Mark Harley Jones, 18 o Wrecsam, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Yr Wyddgrug ddydd Iau i wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth.
Mae teulu Mr Walley wedi ei ddisgrifio fel bachgen oedd yn "ofalgar a charedig."
Dywedodd y teulu mewn datganiad: "Kyle, dim ond 19 oed oeddet ti, gyda dy fywyd cyfan o dy flaen, ein bachgen ni; oeddet ti'n ofalgar, yn gariadus ac yn garedig.
"Roeddet ti'n gwneud i ni chwerthin, gwneud i ni wenu, ac roedd gen ti gymaint i edrych ymlaen ato: prentisiaeth coleg ym mis Medi a chymaint mwy.
"Bydd cymaint yn gweld dy eisiau, ac roedd gen ti'r wên fwyaf a hiwmor; yr holl gariad yn y byd gan Mam, Dad, Lee, Johnathan, Caitlin, Nanna, Aunty a phawb oedd yn dy adnabod di."