Alun Wyn Jones i ail ymuno gyda'r Llewod

Mae Alun Wyn Jones wedi cael ei alw’n ôl i garfan y Llewod ar ôl gwella o anaf.
Gwnaeth Jones anafu ei ysgwydd wrth chwarae yn erbyn Japan ym Murrayfield ar 26 Mehefin, gan chwalu ei obeithion i deithio i Dde Affrica fel capten y tîm.
Bellach, mae cadarnhad wedi dod y bydd Jones yn hedfan i Cape Town ddydd Iau i ymuno â gweddill y garfan, meddai Wales Online.
"Rydym wrth ein boddau i groesawu Alun Wyn nôl," meddai Warren Gatland.
"Mae’n hwb enfawr i’r Llewod groesawu chwaraewr o statws Alun Wyn yn ôl.”
Darllenwch y stori'n llawn yma.