Carchar y Berwyn: Cyhuddo swyddog o gael perthynas gyda charcharor
Mae swyddog carchar o Langollen wedi ei chyhuddo o gael perthynas gyda charcharor yng Ngharchar y Berwyn.
Fe gafodd Jessica McCleary, 28 oed o Froncysyllte ei chyhuddo o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus wedi iddi gynnal perthynas honedig gyda charcharor tra oedd hi yn ei swydd.
Fe ddigwyddodd y perthynas honedig rhyngddi hi a’r carcharor Levi Weekes yng Ngharchar y Berwyn yn Wrecsam.
Cafodd Ms McCleary ei chyhuddo o fod mewn perthynas gyda Mr Weekes rhwng 25 Hydref a 4 Tachwedd y llynedd.
Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth gyda disgwyl iddi ymddangos gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug fis nesaf.
Roedd ei chyfreithiwr, Euros Jones, wedi awgrymu y byddai’n pledio euog.
Dywedodd yr erlynydd Justin Espie fod Ms McCleary wedi ffurfio perthynas gyda Mr Weekes, a bod yna nodiadau sydd yn profi hynny. Fe fydd yn rhaid i’r achos symud i Lys y Goron.
Mae tua 2,000 o ddynion yn cael eu cadw yng ngharchar y Berwyn, gan gynnwys carcharorion o Lerpwl, Manceinion a Birmingham.