'Ddim yn cyd-fynd â’n gwerthoedd': Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi’r gorau i ddefnyddio X
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud eu bod nhw’n rhoi gorau i ddefnyddio cyfrwng cymdeithasol X gan ddweud nad yw’n “cyd-fynd â’n gwerthoedd”.
Dywedodd 10 o’r 45 heddlu yn y DU wrth wasanaeth newyddion Reuters eu bod nhw’n ail-ystyried eu defnydd o’r llwyfan a elwir yn Twitter yn flaenorol.
Mae’r cyfrwng wedi denu beirniadaeth ers iddo gael ei brynu am £34bn gan y biliwnydd Elon Musk sydd wedi bod yn llafar ei farn ar bynciau gan gynnwys ras arlywyddol UDA.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Amanda Blakeman, ei bod yn “fwyfwy” anodd cyfathrebu yn effeithiol ar X.
“Mae’n bwysig i ni ein bod yn gallu cyfathrebu gwybodaeth amserol, ffeithiol a pherthnasol i’n cymunedau yn y Gymraeg ac yn Saesneg,” meddai.
“Roeddem hefyd yn teimlo nad oedd y platfform bellach yn gyson â’n gwerthoedd, ac felly rydym wedi rhoi’r gorau i’w ddefnyddio.
“Byddwn yn parhau i fonitro ac adolygu llwyfannau eraill a pha mor addas ydyn nhw ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu â’r heddlu.”