Newyddion S4C

‘Dim addewidion’ gan Keir Starmer am fwy o arian i Gymru

ITV Cymru 12/10/2024
Eluned Morgan a Keir Starmer

Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan wedi cadarnhau nad oes "unrhyw addewidion" wedi eu gwneud gan Brif Weinidog y DU, Keir Starmer am fwy o arian i Gymru.

Roedd yn siarad ar ôl cyfarfod cyntaf Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau yng Nghaeredin ddydd Gwener, 11 Hydref.

Gwrthododd Syr Keir ddweud wrth gael ei holi gan ohebwyr a fyddai Llywodraeth Cymru yn cael ei chyfran o'r cyllid sydd wedi ei wario yn Lloegr ar reilffordd gyflym HS2.

Mae’r Farwnes Morgan wedi dweud nad yw Cymru yn cael ei chyfran deg o arian i’w wario ar y rheilffyrdd.

Ni fydd rheilffordd gyflym HS2 yn dod ar gyfyl Cymru, ond mae wedi ei dynodi yn brosiect Cymru a Lloegr gan olygu na fydd Cymru yn cael siâr o’r arian yn yr un modd â’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Mewn cyfweliad ag ITV Cymru, dywedodd Eluned Morgan bod angen "rheoli" disgwyliadau cyn cyhoeddi cyllideb hydrefol Llywodraeth y DU ar 30 Hydref.

Pan ofynnwyd iddi a fyddai mwy o arian i Gymru, dywedodd: “Wel doedd dim addewidion, yn sicr ddim heddiw, ac yn amlwg mae pawb yn aros am y gyllideb.

“Ond rwy’n meddwl ei bod yn bwysig cydnabod ei fod wedi bod yn glir iawn bod yna dwll o £22biliwn yn y gyllideb ac nad yw’n mynd i fod yn hawdd ei lenwi.

“Felly mae’n bwysig rheoli disgwyliadau o gwmpas hynny ond roedd cyfle i nodi rhai o’r pethau rydyn ni’n poeni’n arbennig amdanyn nhw yng Nghymru.”

Dywedodd fod Syr Keir "yn gwybod bod Cymru'n teimlo nad yw wedi cael ei chyfran deg”.

'Buddsoddiad'

Dywedodd Keir Starmer wrth ohebwyr: “Rydyn ni wedi cael cyfarfod cyntaf llwyddiannus iawn o Gyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau.

“Roedd Prif Weinidog Cymru yma gyda mi, ac rydym yn cael trafodaeth dda iawn am sut y gallwn ni wneud y gorau o’r cydweithio rhwng y llywodraethau.

“Gweithio gyda’n gilydd ar fuddsoddiad, a gwneud yn siŵr bod gennym ni fuddsoddiad gwirioneddol yn swyddi’r dyfodol ledled Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.