Newyddion S4C

Cymru Premier JD: 'Sefyllfa anarferol' i'r Seintiau Newydd ar ôl colli am y trydydd tro

Sgorio 12/10/2024
Dan Williams Y Seintiau Newydd

Mae sefyllfa anarferol iawn yn datblygu yn y Cymru Premier JD gan fod Y Seintiau Newydd, sydd wedi ennill y bencampwriaeth am dair blynedd yn olynol, yn eistedd yn y chweched safle ar ôl colli tair o’u wyth gêm gynghrair hyd yma.

Roedd hi’n fuddugoliaeth anhygoel i Gaernarfon yn Neuadd y Parc nos Fercher (YSN 1-2 Cfon), sy’n golygu bod y Seintiau wedi colli yr un nifer o gemau cynghrair yn y mis diwethaf ac y gwnaethon nhw yn y tair blynedd cyn hynny.

Hanner ffordd at yr hollt a Phen-y-bont sy’n gosod y safon yn y Cymru Premier JD gyda thîm Rhys Griffiths bum pwynt yn glir ar y brig, a Hwlffordd a Chaernarfon yn yr ail a’r trydydd safle. 

Mae’n edrych yn ddu ar Aberystwyth yn dilyn ymddiswyddiad y rheolwr Anthony Williams wedi i’r clwb lithro i waelod y tabl ar ôl colli wyth gêm yn olynol am y tro cyntaf erioed yn yr uwch gynghrair, a dyw pethau’n mynd dim haws i’r Gwyrdd a’r Duon gan eu bod nhw’n wynebu’r clwb ar y copa brynhawn Sadwrn.

Bydd Y Seintiau Newydd yn disgwyl ymateb yn syth yn erbyn eu gwrthwynebwyr, Met Caerdydd dros y penwythnos, tra bydd Caernarfon a’r Drenewydd yn cyfarfod mewn gêm allweddol yn y frwydr i gyrraedd y Chwech Uchaf.

Dydd Sadwrn, 12 Hydref

Aberystwyth (12fed) v Pen-y-bont (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30

Er ei bod hi ond yn ddechrau mis Hydref, mae ail ddiswyddiad y tymor wedi digwydd yn barod, ac roedd hi’n teimlo’n anochel wrth i Anthony Williams golli ei swydd fel rheolwr Aberystwyth, fel y gwnaeth Neil Gibson i Gei Connah ar ôl penwythnos agoriadol y tymor.

Ymunodd Anthony Williams ag Aberystwyth ym Mai 2022, ac yn ei ddau dymor llawn gyda’r clwb fe orffennodd Aberystwyth yn y 10fed safle, yn osgoi’r cwymp o drwch blewyn ar y ddau achlysur.

Aberystwyth a’r Drenewydd yw’r unig ddau glwb sydd wedi bod yn holl bresennol ers i Uwch Gynghrair Cymru gael ei ffurfio yn 1992, ac mae’r Gwyrdd a’r Duon mewn perygl gwirioneddol o ddod â’u cyfnod di-dor yn yr haen uchaf i ben gan eu bod ar waelod y domen, chwe phwynt y tu ôl i ddiogelwch y 10fed safle.

Dyw Aberystwyth m’ond wedi sgorio pum gôl mewn 11 gêm gynghrair, gan fethu a sgorio mwy nac unwaith mewn gêm drwy gydol y tymor hyd yma.

Pen-y-bont sy’n parhau i osod y safon, bum pwynt yn glir ar y copa gyda 26 o bwyntiau ar ôl ennill wyth o’u 11 gêm gynghrair hyd yma.

Adeg yma’r tymor diwethaf, wedi 11 gêm gynghrair, roedd Pen-y-bont yn y 5ed safle gyda 17 o bwyntiau, 12 pwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd (29pt).

Mae Pen-y-bont wedi ennill saith o’u naw gêm flaenorol yn erbyn Aberystwyth (cyfartal 1, colli 1) yn cynnwys eu buddugoliaeth gyfforddus o 5-1 ar ddechrau’r tymor ‘nôl ym mis Awst.

Record cynghrair diweddar:

Aberystwyth: ͏❌❌❌❌❌

Pen-y-bont: ͏✅✅❌✅✅

Caernarfon (3ydd) v Y Drenewydd (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae Caernarfon ar dân ac wedi dringo i’r tri uchaf ar ôl ennill oddi cartref yn erbyn Y Seintiau Newydd am y tro cyntaf ers chwe blynedd.

Dyw’r Cofis heb golli dim un o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf gan ennill 16 pwynt allan o’r 18 posib (ennill 5, cyfartal 1).

Dyma gyfnod gorau’r Caneris yn y Cymru Premier JD ers Mawrth 2021 pan aeth y clwb ar rediad o wyth gêm gynghrair heb golli dan arweiniad Huw Griffiths.

Caernarfon neu’r Drenewydd sydd wedi bod yn y 6ed safle wedi 22 gêm ym mhob un o’r pum tymor diwethaf wrth i’r gynghrair gael ei hollti’n ddwy, ac felly hon yn frwydr arwyddocaol yn y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf.

Ar ôl dechrau digon addawol i’r ymgyrch mae pethau wedi arafu’n Y Drenewydd wrth i’r Robiniaid fethu ag ennill dim un o’u pedair gêm ddiwethaf.

Mae Caernarfon eisoes wedi curo’r Drenewydd ddwywaith yn barod y tymor hwn, mewn gêm gynghrair ac yng Nghwpan Nathaniel MG, a bydd y Cofis yn anelu am yr hatric brynhawn Sadwrn.

Record cynghrair diweddar: 

Caernarfon: ➖✅✅✅✅
Y Drenewydd: ͏✅➖➖❌❌

Hwlffordd (2il) v Cei Connah (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae Hwlffordd wedi codi i’r ail safle yn dilyn buddugoliaeth gampus o 2-0 oddi cartref yn erbyn Y Bala’r penwythnos diwethaf.

Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau yn y gynghrair (ildio 4 gôl mewn 11 gêm) ac fe gadwodd y golwr Zac Jones ei 7fed llechen lân y tymor hwn ar Faes Tegid, gan ddod yn hafal â’i gyfanswm ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Mae Cei Connah wedi gorffen yn y ddau safle uchaf mewn pump o’r chwe tymor diwethaf (colli 18pt yn nhymor 2021/22), ond mae’r Nomadiaid yn dechrau’r penwythnos yn y 9fed safle, ar ôl cychwyn araf i’r tymor presennol o dan y rheolwr newydd Billy Paynter.

Dyw Cei Connah m’ond wedi ennill tair o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf oddi cartref, gydag un o’r buddugoliaethau rheiny yn dod yn erbyn y clwb sy’n rhannu'r un cae â nhw, sef Y Fflint.

Mae gan Hwlffordd record dda yn erbyn Cei Connah yn ddiweddar gyda’r Adar Gleision yn ennill tair o’r pedair ornest ddiwethaf rhwng y timau.

Record cynghrair diweddar: 

Hwlffordd: ❌✅➖✅✅

Cei Connah: ͏❌❌➖❌✅

Y Barri (8fed) v Llansawel (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae’r Barri wedi profi’n ddiweddar eu bod yn glwb anodd ei churo ar Barc Jenner a dyw tîm Steve Jenkins m’ond wedi colli dwy o’u 15 gêm gartref ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.

Ar ôl colli eu chwe gêm agoriadol ers eu dyrchafiad i’r uwch gynghrair, mae Llansawel wedi dechrau tanio gan fynd ar rediad o dair gêm heb golli a churo’r clwb ar y copa.

Mae’r clybiau yma wedi cwrdd ar sawl achlysur yng Nghynghrair y De, ond hon fydd y gêm gyntaf rhwng y timau yn y Cymru Premier JD.

Hydref 2015 oedd y tro diwethaf i’r Dreigiau guro Llansawel, a dyw’r Cochion heb golli yn eu pedair gornest yn erbyn Y Barri ers hynny.

Record cynghrair diweddar: 

Y Barri: ❌➖➖✅❌

Llansawel: ❌❌➖✅➖

Y Fflint (10fed) v Y Bala (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Fe gafodd Y Fflint ganlyniad gwych oddi cartref yn erbyn Y Drenewydd nos Wener ddiwethaf (Dre 2-4 Ffl), a bydd Lee Fowler yn awyddus i achosi sioc arall y penwythnos yma.

Mae’r Sidanwyr wedi agor bwlch o bum pwynt rhyngddyn nhw a’r ddau isaf, ond mae gan Lansawel (11eg) ddwy gêm wrth gefn.

Mae’r Bala wedi chwarae 20 o gemau oddi cartref ers yr adeg yma’r flwyddyn ddiwethaf gan golli dim ond tair o rheiny (dwywaith yn erbyn YSN, ac unwaith yn erbyn Cei Connah yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru ar gae niwtral Llandudno).

Wedi dweud hynny, dyw’r Bala m’ond wedi ennill un o’u pedair gêm gynghrair oddi cartref y tymor hwn, sef eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn Neuadd y Parc.

Bydd hi’n dasg anodd i’r Fflint, sydd heb ennill yn eu 11 gornest flaenorol yn erbyn Y Bala (colli 10, cyfartal 1), ac heb sgorio yn eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn criw Colin Caton.

Record cynghrair diweddar: 

Y Fflint: ͏✅➖❌❌✅

Y Bala: ✅➖✅➖❌

Y Seintiau Newydd (6ed) v Met Caerdydd (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae prysurdeb y gemau Ewropeaidd yn sicr wedi gadael ei farc ar y Seintiau yn eu hymgyrch ddomestig gyda’r clwb wedi colli tair gêm gynghrair mewn tymor am y tro cyntaf ers 2020/21 pan orffennon nhw’n ail y tu ôl i Gei Connah.

Mae’r Seintiau wedi colli yr un nifer o gemau cynghrair yn y mis diwethaf ac y gwnaethon nhw yn y tair blynedd cyn hynny (3) ac er bod gan y pencampwyr dair gêm wrth gefn, byddai ennill rheiny ddim yn eu codi uwchben y ceffylau blaen, Pen-y-bont.

Er eu bod nhw ar ei hôl hi, y Seintiau sy’n dal i arwain fel prif sgorwyr y gynghrair ar ôl rhwydo 21 gôl mewn wyth gêm, gyda’r asgellwr newydd Sion Bradley yn gydradd brif sgoriwr y gynghrair (6 gôl).

Mae Met Caerdydd wedi dechrau’r tymor yn gryf, ond mae dwy golled yn olynol yn erbyn Hwlffordd a Chaernarfon wedi golygu bod y myfyrwyr yn disgyn i’r 3ydd safle.

Enillodd Met Caerdydd o 3-2 yn erbyn Y Seintiau Newydd ym mis Chwefror 2023, ond teg dweud bod eu record yn erbyn pencampwyr wedi bod yn drychinebus ers hynny.

Mae’r Seintiau wedi ennill eu chwe gêm ddiwethaf yn erbyn y myfyrwyr gan sgorio 35 o goliau yn y gemau rheiny (cyfartaledd o 5.8 gôl y gêm), yn cynnwys crasfa o 8-0 ym mis Ionawr 2024.

Bydd Met Caerdydd yn falch bod Brad Young wedi gadael Croesoswallt dros yr haf gan i’r blaenwr ifanc sgorio 10 gôl yn erbyn tîm y brifddinas yn ystod y tymor diwethaf.

Ond Declan McManus fydd yr un i’w wylio o bosib, gan ei fod yntau wedi rhwydo pum gôl yn ei ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn myfyrwyr Ryan Jenkins. 

Record cynghrair diweddar: 

Y Seintiau Newydd: ✅❌❌✅❌

Met Caerdydd: ͏❌✅✅❌❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.