Gwasanaethau brys yn Ysbyty Llandochau wedi 'damwain yn ymwneud â bws'
10/10/2024
Roedd y gwasanaethau brys ar safle Ysbyty Llandochau ym Mro Morgannwg brynhawn Iau wedi ‘damwain yn ymwneud â bws.’
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng bws a nifer o geir nad oedd yn cael eu gyrru ar y pryd.
Derbyniodd yr heddlu adroddiad o'r gwrthdrawiad am tua 14:30 brynhawn Iau.
Nid oes unrhyw adroddiadau o anafiadau difrifol yn ôl y llu, ac maent yn ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad.
Mae lluniau yn dangos bws sydd wedi gyrru i mewn i adeilad parcio aml-lawr ger yr ysbyty.
Mae’r bwrdd iechyd wedi gofyn i bobl osgoi’r ardal tra bod ymchwiliadau yn parhau.