'Dyma'r diwedd': Rhoi'r gorau i ffermio ar ôl i gŵn ladd defaid yng Ngheredigion
Rhybudd: Gallai'r lluniau yn yr erthygl hon beri gofid.
Mae ffermwraig yng Ngheredigion wedi penderfynu rhoi'r gorau i ffermio ar ôl i berchennog cŵn a laddodd rhan fwyaf o'i defaid oedd werth miloedd o bunnoedd dderbyn dirwy o £75.
Ar 24 Ebrill 2023 fe wnaeth Liz Nutting godi ar gyfer diwrnod arferol ar ei fferm ym Mhont Creuddyn ger Llanbedr Pont Steffan.
Wrth iddi gamu allan i'r caeau fe sylweddolodd fod pethau'n dawelach nag arfer, cyn gweld gwaed a gwlân ei defaid ar hyd y cae.
"Es i draw at y ddafad gyntaf ac roedd hi'n amlwg wedi marw," meddai wrth Newyddion S4C.
"Roedd ei gwlân wedi rhwygo, roedd ei hwyneb wedi ei rwygo a'i malurio yn wael iawn.
"Gwelais i'r defaid oedd dal yn fyw yn cuddio yn y corneli, pob un yn sefyll yn yr unfan. Fe wnes i ddarganfod un oen bach wedi ei anafu mewn ffos wedi ei orchuddio gan ddŵr brwnt, gwlyb.
"Doeddwn i methu credu'r hyn roeddwn i'n ei weld. Wrth gerdded trwy'r cae roeddwn i'n teimlo'n sâl, yn bryderus, fel bod lwmp mawr yn fy ngwddf."
Roedd rhai o'r ŵyn a gafodd eu lladd mor ifanc â 10 mis oed.
Ychwanegodd Mrs Nutting: "Roedd y rhai oedd dal yn fyw wedi eu hanafu'n ddifrifol. Roedd gwddf un wedi cael ei frathu yn wael iawn, roedd gwaed ym mhobman.
"Roedd cynffonnau ar y llawr, roedd coes un ddafad wedi ei rhwygo oddi ar ei chorff.
"Ffoniais fy nghymydog ar y fferm drws nesaf ac fe redodd allan yn syth. Cafodd 15 o'i ddefaid eu lladd."
Bu'n rhaid i'r milfeddyg ddifa dwy ddafad arall pan gyrhaeddodd y fferm. Fe gollodd 10 o'i defaid i gyd.
Roedd gwerth y golled ariannol i'r ddau ffermwr tua £6,500.
'Gadael i lawr'
Dros flwyddyn ar ôl yr ymosodiad derbyniodd Evan Jones o Bont Creuddyn ddirwy o £75 am droseddau pryderu da byw.
Yn ôl Liz Nutting, roedd Heddlu Dyfed-Powys yn credu bod digon o dystiolaeth i fynd â Mr Jones i'r llys.
Ar ôl i'r achos gael ei ohirio bedair gwaith, fe wnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron benderfynu nad oedden nhw am barhau gyda'r achos, meddai Mrs Nutting.
"Misoedd o gasglu tystiolaeth, printiau'r cŵn ar y cae, roedd ein milfeddyg wedi gweld y pedwar ci yn y cae, i gyd wedi mynd i wastraff," meddai Liz.
"Doedden ni methu credu mai dirwy £75 yn unig oedd y canlyniad. Dydw i ddim yn ystyried hwnnw i fod yn gosb deg.
"Nid oedd ein lleisiau ni wedi cael eu clywed, nid oedd llais ein cymydog wedi cael ei glywed. Dwi'n teimlo'n flin, maen nhw wedi gadael ni lawr."
Ychwanegodd: "Mae'n teimlo fel nad oes gwerth i ni, ein defaid a'r hyn rydym ni wedi bod drwyddo.
"Pan glywodd y ffermwyr lleol eraill bod yr achos wedi ei ollwng a bod y perchennog wedi derbyn dirwy £75 yn unig, roedden nhw methu credu'r peth ac roedden nhw'n grac iawn.
"Roedd teimlad bod cymuned wledig wedi cael ei gadael i lawr."
Rhoi'r gorau i ffermio
Ym mis Awst eleni, yn yr un mis pan gafodd Evan Jones ei ddirwyo, penderfynodd Liz Nutting a'i theulu roi'r gorau i ffermio.
Symudodd y teulu o Gaint i Geredigion yn 2018, gan werthu bob dim a phrynu fferm fach a chadw defaid, er nad oedd ganddyn nhw unrhyw brofiad blaenorol.
Fe wnaethon nhw fynychu cyrsiau gwahanol a phrynu bob dim oedd ei angen er mwyn rhedeg fferm lwyddiannus.
Ond mae'r ymosodiad wedi golygu eu bod nhw "wedi colli bob dim" ac mae'r gost o ddechrau eto yn ormod i Liz.
"Mae wedi bod yn broses emosiynol iawn, nid oedd hynny'n rhywbeth roeddem wedi paratoi amdano," meddai.
"Mae bob dim rydym ni wedi adeiladu dros y bedair blynedd diwethaf wedi mynd, ac mae hynny'n ddinistriol.
"Fe fyddai dechrau eto yn costio llawer, ac nid oes gennym ni'r arian ar gyfer hynny.
"Hyd yn oed yr ŵyn wnaeth oroesi'r ymosodiad, nid ydyn nhw'n gallu bridio, maen nhw'n anifeiliaid anwes i bob pwrpas."
Mae'r ffaith bod y cŵn oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad yn parhau yn yr ardal leol hefyd yn bryder i Liz, sydd yn ofni ymosodiad tebyg eto.
"Maen nhw llai na hanner milltir i ffwrdd, cwpl o gaeau yn unig o le 'da ni'n byw.
"Pob tro roeddem yn eu clywed nhw'n cyfarth roedden ni'n dychryn. Doeddwn i methu cysgu'n iawn achos roedd e'n cael effaith fwy arnaf 'na beth oeddwn i'n ei ddisgwyl.
"Doedden ni heb symud i Geredigion i roi'r gorau iddi pan ddaeth y rhwystr cyntaf, ond 'da ni wedi dioddef yn emosiynol ac yn ariannol a dwi ddim yn meddwl fy mod i'n gallu mynd trwy hynny eto.
"Dyma'r diwedd i ni."