
ORIEL LUNIAU: Ffotograffwyr Bywyd Gwyllt y Flwyddyn
Mae llun o haid o benbyliaid gafodd ei dynnu gan ffotograffydd wrth snorclo am oriau mewn llyn yng Nghanada wedi ennill cystadleuaeth Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn eleni.
Llwyddodd y llun gan Shane Gross i guro 59,228 o geisiadau o 117 o wledydd i gipio’r brif wobr yn 60fed blwyddyn y gystadleuaeth a gynhaliwyd gan yr Amgueddfa Hanes Natur.
Tynnodd Mr Gross y llun o'r penbyliaid llyffant, sy'n cael eu hystyried fel rhai sydd bron dan fygythiad oherwydd niwed i'w cynefinoedd, wrth snorclo yn Llyn Cedar ar Ynys Vancouver, Canada.
Dywedodd Kathy Moran, cadeirydd y rheithgor: “Cafodd y rheithgor ei swyno gan y cymysgedd o olau, egni a chysylltiad rhwng yr amgylchedd a’r penbyliaid.
“Cawsom ein cyffroi hefyd gan fod rhywogaeth newydd wedi’i hychwanegu at archif Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn. “
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r gystadleuaeth wedi amlygu amgylcheddau a rhywogaethau sy’n cael eu hanwybyddu’n aml ond sy’n peri’r un rhyfeddod a hyfrydwch o’u rhannu â’r bywyd gwyllt a’r mannau gwyllt sydd yn destun lluniau mwy nodweddiadol.”
Dyfarnwyd enillwyr categorïau hefyd am ystod o bynciau gan gynnwys portreadau o anifeiliaid, anifeiliaid yn eu hamgylchedd, ymddygiad mamaliaid, amffibiaid ac ymlusgiaid, adar, bywyd gwyllt tanddwr a threfol, yn ogystal â thri chategori oedran ar gyfer y ffotograffydd bywyd gwyllt ifanc.




Lluniau drwy ganiatád yr Amgueddfa Hanes Natur: Hikkaduwa Liyanage Prasantha Vinod/Jack Zhi/Karine Aigner/Britta Jaschinski