Newyddion S4C

Dŵr Cymru yn wynebu talu £24.1m am fethu targedau meddai Ofwat

Y dwr

Mae Dŵr Cymru yn wynebu 'taliad tanberfformiad' o £24.1m eleni am fethu targedau meddai'r rheoleiddiwr Ofwat.

Mae’n un o 13 cwmni dŵr a fydd yn gorfod gostwng biliau cwsmeriaid ar ôl methu targedau ar leihau llygredd a cholli dŵr.

Dŵr Cymru sy’n wynebu y pumed “taliad tanberfformiad" mwyaf o’r 17 cwmni dŵr yn y DU sy’n cael eu rheoleiddio gan Ofwat. 

Dywedodd Ofwat bod Dŵr Cymru yn un o dri chwmni, ynghyd ag Anglian Water a Southern Water, oedd yn parhau yn eu categori “ar ei hôl hi” o ran gwneud gwelliannau.

Roedd yn “siomedig” meddai Ofwat yn eu hadroddiad bod Dŵr Cymru hefyd wedi colli mwy o ddŵr rhwng 2022-23 a 2023-24.

“Datgelodd ffigurau newydd Dŵr Cymru lefel llawer uwch o ollyngiadau nag a adroddwyd yn flaenorol ac felly bydd yn arbennig o bwysig iddynt eu lleihau,” medden nhw.

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Rydym yn gweithio'n galed i gyflawni'r gwelliannau yr ydym ni'n gwybod fod angen i ni eu gwneud ac mae ein cwsmeriaid yn disgwyl gennym ni. Mae gwelliannau o'r fath yn cymryd amser ac yn cael eu cefnogi gan gynlluniau buddsoddi manwl i sicrhau cynnydd."

Roedd rywfaint o newyddion da i Dŵr Cymru wrth i Ofwat nodi eu bod nhw ar flaen y gad wrth atal digwyddiadau yn ymwneud â llifogydd mewn carthfosydd.

Mae Hafren Dyfrdwy sy’n gwasanaethu rhannau o Gymru yn wynebu taliad tanberfformiad o £0.2m.

'Ystwyth'

Mae adroddiad blynyddol Ofwat yn mesur pob cwmni yn ôl targedau a gafodd eu gosod ar gyfer 2025.

Os ydyn nhw’n methu â bodloni'r targedau rhain, mae Ofwat yn cyfyngu ar faint o arian y gallant ei gymryd gan gwsmeriaid. 

Dywedodd Ofwat fod y ffigyrau yn rhai dros dro hyd nes y bydd wedi cwblhau proses adolygu.

Dywedodd David Black, prif weithredwr Ofwat: “Mae adroddiad perfformiad eleni yn dystiolaeth gref na fydd arian yn unig yn dod â’r gwelliannau parhaus y mae cwsmeriaid yn eu disgwyl.

“Mae’n amlwg bod angen i gwmnïau newid ac mae’n rhaid i hynny ddechrau gyda mynd i’r afael â materion diwylliant ac arweinyddiaeth. Yn rhy aml clywn fod y tywydd, trydydd parti neu ffactorau allanol yn cael eu beio am ddiffygion.

“Rhaid i gwmnïau roi camau gweithredu ar waith nawr i wella perfformiad, bod yn fwy deinamig, ystwyth ac ar flaen y gad o ran materion. A pheidiwch ag aros nes y bydd llywodraeth neu reoleiddwyr yn dweud wrthynt am weithredu.

“Wrth i ni edrych tuag at y rheolaeth prisiau nesaf, yr her i gwmnïau dŵr yw paru’r buddsoddiad â’r newidiadau yn niwylliant a pherfformiad cwmnïau sy’n hanfodol i sicrhau newid parhaol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.