
Oedi cynlluniau i agor ysgol cyfrwng Saesneg oherwydd pryderon am y Gymraeg

Oedi cynlluniau i agor ysgol cyfrwng Saesneg oherwydd pryderon am y Gymraeg
Mae'r Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles wedi cadarnhau fod cynnig i ariannu ysgol gynradd gyfrwng Saesneg newydd yng Nghwm Tawe wedi ei ohirio am y tro.
Daw hyn yn dilyn pryderon gan drigolion lleol am yr effaith y gallai'r ysgol newydd gael ar yr iaith Gymraeg yn yr ardal.
Cadarnhaodd Jeremy Miles ar raglen Newyddion S4C fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn cwrdd gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot i drafod y mater, gyda'r cynnig ariannol wedi ei ohirio tra bod y trafodaethau hynny'n digwydd.
Mae'r cynlluniau yn cynnig cau tair ysgol Saesneg, gan adeiladu safle newydd ar gyfer 750 o blant ym Mhontardawe erbyn Medi 2024.
Fe wnaeth 600 o bobl wrthwynebu’r cynlluniau yn ystod cyfnod ymgynghori dros y gaeaf, gyda 21 o bobl yn dangos cefnogaeth.
Mae'r cyngor eisoes wedi dweud nad ydy hi’n bosib iddyn nhw wneud “unrhyw sylwadau pellach tra bod yr ymgynghoriad yn parhau”.
‘Effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg’
Mae Rebecca Phillips yn fam i ddau o blant yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe ac yn poeni am effaith y buddsoddiad ar yr iaith Gymraeg.
“'Wi'n credu fel rhywun sy' wedi dewis addysg Gymraeg i'm mhlant i ma' fe yn pryderu fi y neges ma' fe'n rhoi i'r gymuned.
“Ni wedi gweld dros lawer o flynyddoedd diffyg buddsoddiad mewn addysg Gymraeg yng Nghwm Tawe ac yng Nghastell-nedd Port Talbot - felly mae yn pryderu fi bod nhw yn agor a rhoi buddsoddiad mawr i addysg cyfrwng Saesneg yng Nghwm Tawe.
“Fi'n credu mai hwnna yn mynd i gael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg yng Nghwm Tawe.”

Mae Sioned Williams, yr Aelod Senedd Cymru dros Dde Orllewin Cymru yn anghytuno gyda’r cynlluniau.
“Ma' 'na bryderon wrth gwrs. Ma' 'na bryderon wedi bod am ddegawdau ynglŷn â diffyg awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot i ddarparu ar gyfer addysg Gymraeg.
“Ac felly mae'r teimlad bod 'na anghyfartaledd, bod 'na diffyg datblygu ar yr ochr Gymraeg a bod y datblygiad mawr yma yng nghanol tre fwyaf Cwm Tawe, ardal sydd â nifer uchel o siaradwyr Cymraeg ac wedi cael ei adnabod fel lle mae angen diogelu'r iaith, bod hynny yn amlwg yn mynd i gael effaith andwyol ar addysg Gymraeg.”
Ychwanegodd y dylai’r cyngor ail-ystyried, ac y byddai ymgynghoriad o’r newydd yn “hollol dderbyniol”.
Mae Ben Holdsworth yn dad i ddau o blant sy’n mynychu Ysgol Godre’r Graig, un o’r ysgolion a fyddai’n cau dan y cynllun arfaethedig.
Dywedodd ei fod yn poeni am yr effaith y gallai cau’r ysgolion gael ar y cymunedau.
“Mae cau tair ysgol sy’n ganolog i’w cymunedau ac agor ysgol ffatri ym Mhontardawe, gyda’r holl broblemau y bydd hynny’n eu hachosi i gymuned arall yn gwbl wallgof.”
Mae gan drigolion yr ardal tan 14 Gorffennaf i fynegi barn ar y cynlluniau cyn bod y cyngor yn gwneud penderfyniad terfynol.