Menyw o Fangor am i bobl weld 'tu hwnt i'r gadair olwyn'
Mae menyw a gafodd ei pharlysu o'i chanol i lawr mewn damwain eisiau i bobl weld "tu hwnt i'r gadair olwyn a'm gweld fel person" wrth iddi gymryd rhan mewn cyfres deledu.
Fe gafodd Sophie Jones, sy'n 29 oed, ddamwain yn 2019.
Mae'n un o wynebau newydd y gyfres deledu Gogglebocs Cymru ar S4C ac yn rhannu'r soffa gyda Morfen.
"Dw i'n gaeth i'r gadair olwyn ers i mi gwympo yn 2019 gan gracio fy mhen gan achosi anaf i'r ymennydd ond dw i eisiau i wylwyr Gogglebocs Cymru weld tu hwnt i'r gadair olwyn a'm gweld fel person," meddai Sophie, sy'n byw ym Mangor.
Mae'r ddwy yn gwylio "pob math o raglenni" gyda'i gilydd meddai Morfen sy'n 56 oed. Roedd Morfen yn gweithio fel dylunydd mewnol yn Sir Efrog am fwy na 25 mlynedd. Ond fe benderfynodd symud yn ôl i Gymru a newid gyrfa trwy ddod yn weithiwr cymorth.
Mae'r ddwy wedi adnabod ei gilydd ers tua blwyddyn.
"Bu farw fy mam o Sepsis yn 2017 ac rwyf wedi dod yn hoff iawn o Morfen.
"Mae hi tua'r un oed â fy mam ac rydyn ni'n cael sgyrsiau tebyg a lot o hwyl gyda'n gilydd. Mae hi wedi dod yn ail fam i mi ac rwy'n lwcus iawn," meddai Sophie.
Saith aelod newydd sydd yn rhoi eu barn ar raglenni teledu amrywiol y tro yma. Yn eu plith mae Nia Davies a Kevin Williams, wnaeth gyfarfod yng ngorsaf radio Ysbyty Gwynedd.
"Bydd yn brofiad newydd i'r ddau ohonom. Dw i wedi gwneud llawer o radio ond dim llawer o deledu. Efallai y bydd rhai pobl yn dweud bod gen i wyneb da ar gyfer y radio," meddai Kevin.
Mae rhai wynebau cyfarwydd o'r gyfres ddiwethaf hefyd yn ôl. Bydd y rhaglen gyntaf yn cael ei darlledu ar 16 Hydref.
Dywedodd cynhyrchydd y gyfres, Euros Wyn: "Mae hen aelodau'r cast yr un mor gyffrous â'r rhai newydd am y gyfres newydd ac maen nhw'n edrych ymlaen at fynd i'r afael â'r rhaglenni y byddan nhw'n eu gwylio.
"Er mwyn dathlu hanner canmlwyddiant Pobol y Cwm, rydym wedi penderfynu gwahodd aelodau presennol a chyn-aelodau cast Pobol y Cwm i eistedd ar eu soffas a rhoi sylwadau ar deledu'r wythnos honno yn ogystal â'n cast rheolaidd.
"Hefyd, mae S4C wedi casglu ynghyd rai eiliadau eiconig iawn o Pobol y Cwm, a bydd yn ddiddorol iawn gweld sut mae ein cast yn ymateb iddyn nhw!"
Bydd Gogglebocs Cymru yn dechrau ar S4C nos Fercher, 16 Hydref 16 am 21:00.