Tŷ'r Cyffredin yn cymeradwyo toriadau i wariant cymorth rhyngwladol

Mae aelodau o'r blaid Geidwadol wedi methu yn eu hymgais i wyrdroi toriadau Boris Johnson i wariant cymorth rhyngwladol y DU mewn pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin.
Roedd y cyn-brif weinidog Theresa May ymhlith y Ceidwadwyr a wnaeth wrthryfela a phleidleisio yn erbyn cynllun a luniwyd gan y canghellor Rishi Sunak.
O dan y cynlluniau newydd, bydd gwariant tramor yn parhau ar 0.5%, toriad o 0.2% o'r cyllid arferol, tan y bydd amodau economaidd yn gwella.
Cafodd y llywodraeth fwyafrif o 35, gyda 333 yn pleidleisio o blaid a 298 yn erbyn y cynnig, meddai The Independent.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Parliament TV