Cwmni Kellogg's i greu 130 swyddi yn y gogledd
Cwmni Kellogg's i greu 130 swyddi yn y gogledd
# Waking up to Kellogg's Corn Flakes #
Mae o'n frand bwyd sy'n mynd nôl genedlaethau, yn gwmni wnaeth newid y diwydiant bwyd a'r bwrdd brecwast.
Am genedlaethau, mae llawer o'r cynnyrch ym Mhrydain wedi cael ei wneud yn Wrecsam a'r lle yma'n gyflogwr pwysig yn lleol.
Mae 350 yn gweithio i Kellogg ar hyn o bryd yma ond mae'r ffigwr hwnnw'n mynd i godi'n sylweddol yn y dyfodol. Mae hynny'n cael croeso mawr gan y staff yma.
"Ni newydd cael y newyddion am yr investment o £75 miliwn. Felly, lot yn digwydd dros y blynyddoedd nesaf ac mae'n grêt."
Mae cynhyrchiant yn dyblu.
"Efo hwn, ni'n gallu gwneud miliwn a hanner o focsys bob diwrnod sy'n anhygoel!"
Mi fydd dwy linell gynhyrchu newydd yn cael eu creu yma. Mae'r cwmni'n honni y bydd y rhain yn lleihau allyriadau carbon gyda'r defnydd o dechnoleg deallusrwydd artiffisial.
Bydden nhw'n medru defnyddio mwy o'r deunyddiau crai ac felly'n lleihau gwastraff bwyd.
Ni'n aml yn clywed am ffatrioedd yn cau a'r gwaith yn symud o Gymru i lefydd mwy poblog.
Ond i'r gwrthwyneb sydd wedi digwydd yn yr achos yma. 300 o swyddi'n cael eu colli ym Manceinion gyda chau ffatri hŷn a Wrecsam sy'n elwa.
Mae rhai'n credu bod y cysylltiad gyda Chymru yn mynd yn ôl ymhell i ddyddiau telynores Maldwyn, Nansi Richards, wnaeth gyfarfod â pherchnogion y cwmni yn yr Unol Daleithiau.
Yn ôl y sôn, a'u dysgu bod yr enw Kellogg yn debyg i'r gair ceiliog a'u perswadio i roi'r aderyn hwnnw yn ddelwedd ar eu bocsys.
Gwir ai peidio, roedd y ddraig goch a'r ceiliog yn gyfeillion heddiw ac yno i groesawu ymwelydd arbennig.
Ar ôl gweld colledion swyddi ym Mhort Talbot ddechrau'r wythnos roedd y Prif Weinidog yn falch o weld newyddion da i economi Cymru.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n llawenhau pryd mae'n dod. Rhaid i'r buddsoddiad yma yn cael ei lledu ar draws Cymru. Mae hwn yn dangos bod pobl yn credo bod Cymru yn lle da i fuddsoddi a bod y gweithlu yma er mwyn neud y buddsoddiad yna'n arbennig."
Gweithwyr sy'n colli gwaith ym Manceinion fydd yn cael y cynnig cyntaf ar y swyddi newydd yn Wrecsam. Mae disgwyl i'r broses gyfan gymryd dwy flynedd gyda'r safle hwn wedyn yn ffatri grawnfwyd fwyaf Ewrop.