Marwolaethau padlfyrddio Hwlffordd: Cyhuddo menyw
Mae menyw wedi cael ei chyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth pedwar o bobl yn dilyn digwyddiad padlfyrddio yn Sir Benfro.
Mae Nerys Bethan Lloyd, 39 oed, o Aberafan, wedi ei chyhuddo o bedwar achos o ddynladdiad esgeuluster difrifol ac un drosedd dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Daw ar ôl digwyddiad ar Afon Cleddau yn Sir Benfro ar ddydd Sadwrn, 30 Hydref, 2021.
Arweiniodd y digwyddiad at farwolaethau Paul O’Dwyer, Andrea Powell, Morgan Rogers a Nicola Wheatley ac roedd pedwar o oroeswyr eraill.
Bydd Lloyd yn ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd ar 3 Rhagfyr 2024.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Cameron Ritchie, yr uwch swyddog ymchwilio: “Yn dilyn ymchwiliad hir a chymhleth, yn gweithio’n agos gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Gwasanaeth Erlyn y Goron, mae Nerys Lloyd heddiw wedi ei chyhuddo o bedwar achos o ddynladdiad esgeuluster difrifol ac un achos dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
"Mae teuluoedd y rhai hynny a fu farw a’r rhai hynny a oroesodd y digwyddiad i gyd wedi cael gwybod. Gan fod achosion troseddol nawr wedi cychwyn mae’n bwysig nad oes unrhyw riportio, sylwebaeth na phostio ar-lein a allai niweidio’r achos hwn.”
Llun: Morgan Rogers, Nicola Wheatley, Paul O’Dwyer ac Andrea Powell.