America ac Iran yn cytuno ar 'fframwaith' i ddod â'r rhyfel i ben
Mae arweinwyr gwleidyddol wedi cyhoeddi fod America ac Iran wedi cytuno ar gytundeb i ddod a'r rhyfel rhwng y ddwy wlad i ben.
Yn ôl Donald Trump, Arlywydd America bydd y cytundeb yn golygu ail agor culfor Hormuz.
Bydd hefyd yn golygu y bydd y blocâd llynges America ar borthladdoedd Iran yn cael ei godi.
Mae'r cyfryngau yn Iran hefyd yn dweud bod y cytundeb yn cynnwys codi sancsiynau America ar Iran a bod Iran yn cytuno i beidio cynhyrchu arfau niwclear.
Mae disgwyl i'r ddwy ochr arwyddo'r cytundeb yn Y Swistir ddydd Gwener.
Pacistan, sydd wedi bod yn chwarae rôl y canolwr rhwng y ddwy wlad, wnaeth gyhoeddi'r cytundeb yn gyntaf.
Fe ddywedodd Prif Weinidog y wlad, Shehbaz Sharif, y byddai'r cytundeb yn dod â'r "ymgyrchoedd milwrol i ben gan gynnwys y rhai yn Libanus".
60 diwrnod
Mae Trump wedi dweud ar ei gyfrwng cymdeithasol ei hun, Truth Social: "Llongau'r byd, dechreuwch eich injans. Gadewch i'r olew lifo!"
Ers y cyhoeddiad mae prisiau olew wedi dechrau gostwng yn raddol.
Tra bod y cyhoeddiad yn foment fawr, y gred yw mai dim ond y dechrau yw hyn. Dyw Israel a Hezbollah ddim yn rhan o'r cytundeb ac mae amheuon os ydyn nhw yn hapus gyda'r fframwaith.
Bydd yna 60 diwrnod wedi i'r cytundeb gael ei arwyddo lle bydd America ac Iran yn trafod y manylion gan gynnwys y mater o arfau niwclear sydd gan Iran. Dyw'r wlad ddim yn awyddus i roi'r gorau i'r arfau hynny felly mae sawl mater sydd yn rhaid goresgyn.
Mae arweinwyr Ffrainc, Prydain, yr Almaen ac yr Eidal wedi croesawu'r cytundeb ond wedi dweud na ddylai Iran "fyth gael arfau niwclear".
