Gwahardd plant dan 16 rhag defnyddio cyfryngau cymdeithasol

Keir Starmer

Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, wedi dweud mai “gwaharddiad llawn yw’r dewis cywir”, wrth iddo gyhoeddi y bydd plant dan 16 oed yn cael eu gwahardd rhag defnyddio amrywiaeth o gyfryngau cymdeithasol.

Mewn cynhadledd i’r wasg fore Llun, cyhoeddodd Starmer y byddai’r gwaharddiad yn dod i rym “yn ystod rhan gyntaf y flwyddyn nesaf”.

Dywedodd na fyddai’n cyfaddawdu ar “ddiogelwch a hapusrwydd ein plant”.

Dywedodd ei fod yn hyderus y gallai’r gwaharddiad fod yn effeithiol, ond cyfaddefodd y byddai rhai plant yn dod o hyd i ffordd o’i osgoi.

Mae gwaharddiad eisoes ar waith yn Awstralia, ond mae disgwyl i’r newidiadau yn y DU fynd y tu hwnt i’r rhai sydd mewn grym yn y wlad honno.

Yn ogystal â chodi’r isafswm oedran ar gyfer apiau fel TikTok, Instagram, Facebook a YouTube i 16 oed, dywedodd Starmer y bydd Llywodraeth y DU yn cymryd camau “sy’n arwain y byd” ar lwyfannau gemau a ffrydio byw, fel na fydd dieithriaid yn gallu cysylltu â phlant.

Fe wnaeth 116,000 o bobl ymateb i ymgynghoriad ar y mater, yr ail nifer mwyaf o ymatebion erioed i ymgynghoriad gan y llywodraeth.

Dywedodd 83% o’r rhieni a ymatebodd fod risgiau cyfryngau cymdeithasol yn fwy na’r buddion i blant.

Roedd 62% o’r plant a ymatebodd yn dweud y byddai cyfyngu ar rai rhannau o gyfryngau cymdeithasol yn gwneud iddyn nhw deimlo’n fwy diogel ar-lein.

'Rhoi plant a rhieni gyntaf'

Daw cyhoeddiad Syr Keir Starmer ar ôl iddo fynnu y dylai Apple a Google ei gwneud yn dechnegol amhosib i blant dynnu, rhannu neu edrych ar luniau noeth ar eu ffonau symudol.

Dywedodd fod pobl “yn disgwyl i ni weithredu” er mwyn diogelu plant ar-lein.

“Mae sut rydym yn cadw plant yn ddiogel ar-lein yn un o ddadleuon mwyaf ein hoes,” meddai.

“Fel tad, rwyf yn gwybod bod pob rhiant eisiau i’w plant dyfu i fyny yn ddiogel ac yn hapus.

“Mae pobl yn iawn i ddisgwyl i ni weithredu, a bydd y llywodraeth hon bob tro yn sefyll i fyny dros roi rhieni a phlant gyntaf.

“Dyna pam ein bod yn dod â system sydd yn methu ein plant i ben.”

'Ymyrraeth'

Mae rhai pryderon wedi cael eu codi am rai o’r newidiadau.

Roedd 72% o’r plant a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn dweud eu bod yn ofni “colli allan” pe bai cyfyngiadau yn dod i rym.

Mae cyd-gadeirydd Grŵp Seneddol Trawsbleidiol San Steffan i grewyr digidol, Feryal Clark, yn dweud na ddylai pobl ifanc golli mynediad at gynnwys sy’n helpu i’w haddysgu.

“Mae fideos addysgiadol o ansawdd uchel gan grewyr cynnwys yn adnodd cyhoeddus hanfodol, ac mae hynny’n wahanol i gyfryngau cymdeithasol.

“Er enghraifft, mae llawer o bobl ifanc yn defnyddio platfformau i adolygu ar gyfer eu cyrsiau TGAU, neu i ddysgu iaith neu offeryn cerddorol.

“Mae angen i unrhyw ymyrraeth gyfreithiol fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

“Byddai methu â gwneud hynny yn atal cyfleoedd i bobl ifanc mewn cyfnod lle maen nhw angen y pethau hyn fwyaf.”

Fe gafodd y Molly Rose Foundation ei sefydlu yn 2018 er cof am Molly Russell, a gymerodd ei bywyd ei hun ar ôl gwylio cynnwys niweidiol ar-lein.

Dywedodd prif weithredwr yr elusen na fyddai gwahardd plant a phobl ifanc rhag defnyddio cyfryngau cymdeithasol “yn mynd i’r afael â risgiau diogelwch sylfaenol”.

“Bydd y mwyafrif o blant yn parhau i ymweld â gwefannau risg uchel na fydd ganddynt unrhyw gymhelliant i osod mesurau diogelwch cadarn.

“Nid dyma beth mae arbenigwyr diogelwch ar-lein yn credu fydd yn gweithio. Mae Keir Starmer wedi dewis ildio cyfrifoldeb am fynd i’r afael ag algorithmau niweidiol, a bydd ei waddol yn lleihau diogelwch plant am gyfnod o flynyddoedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.