Mab Tywysoges o Norwy yn euog o ddau gyhuddiad o dreisio
Mae Marius Borg Høiby, mab 29 oed Tywysoges Goronog Norwy wedi ei ganfod yn euog o ddau gyhuddiad o dreisio.
Fe wnaeth tri barnwr yn Oslo ei ganfod yn ddieuog o ddau gyhuddiad arall o dreisio ond fe ddaethon nhw i'r casgliad ei fod yn euog o nifer o droseddau eraill.
Mae wedi cael dedfryd o bedair blynedd yn y carchar.
Doedd Høiby ddim yn y llys er mwyn clywed y ddedfryd ond fe wnaeth o ymuno gyda'r sesiwn trwy linc fideo.
Roedd yr erlynwyr wedi galw am ddedfryd o dros saith mlynedd yn y carchar. Ond roedd ei gyfreithwyr wedi galw am ddedfryd o 18 mis a'r hawl i apelio.
Fe wnaeth mam Marius Høiby briodi aelod o deulu brenhinol y wlad pan oedd o yn bedair oed. Er ei fod o wedi ei fagu o fewn y teulu brenhinol nid oes ganddo deitl na breintiau brenhinol ei hun.
Mae mam Marius Borg Høiby, Mette-Marit, yn sâl iawn gydag afiechyd ar yr ysgyfaint. Yn ddiweddar mae hi wedi ei rhoi ar y rhestr i gael trawsblaniad ysgyfaint. Roedd cyfreithwyr Høiby wedi gofyn sawl gwaith iddo gael ei rhyddhau o'r carchar fel y byddai modd iddo dreulio amser gyda'i fam o achos bod ei hiechyd wedi gwaethygu.
Roedd Høiby wastad wedi gwadu'r cyhuddiadau o dreisio ond fe gafodd ei ganfod yn euog o dreisio dwy fenyw. Fe ddigwyddodd y treisio gydag un fenyw ar stad frenhinol y Tywysog yn 2018 tra bod y treisio arall wedi digwydd gyda menyw yn Oslo yn 2024.
Cafodd hefyd ei ganfod yn euog o gam-drin ei gyn gariad, Nora Haukland sydd yn ddylanwadwraig o Norwy.
Ond fe ddaeth y tri barnwr i'r casgliad ei fod yn ddieuog o ddau gyhuddiad arall o dreisio.
Llun: REUTERS
