Y lluoedd arfog yn cynnal cyrch ar dancer olew o Rwsia
Mae lluoedd arfog Prydain wedi cynnal cyrch ar long sydd yn perthyn i fflyd gysgodol ('shadow fleet') Rwsiaidd yn y Sianel rhwng Lloegr a Ffrainc yn oriau mân bore dydd Sul.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod commandos o'r Morlu Brenhinol a swyddogion o'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol wedi mynd ar fwrdd tancer olew yn ystod ymgyrch chwe awr.
Llongau 'fflyd gysgodol' yw rhwydwaith o longau masnachol sydd yn defnyddio tactegau twyllodrus - fel ffugio cofnod o'u taith, hedfan dan faner ffug, neu guddio technoleg tracio - er mwyn cludo nwyddau sydd wedi eu gwahardd gan sancsiynau.
Y gred yw mai'r cyrch fore dydd Sul yw'r ymgyrch gyntaf o'i bath dan arweiniad y DU.
Bydd y llong Smyrtos yn cael ei symud dros dro i angorfa oddi ar arfordir deheuol Lloegr a'i monitro am unrhyw bryderon amgylcheddol neu ddiogelwch.
Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn, cefnogwyd yr ymgyrch gan awyrennau o'r Grŵp Awyr Morwrol (Chinooks, Merlin Mk4 a Wildcat), awyren RAF P-8, a HMS Sutherland a HMS Ledbury.
'Ergyd i Rwsia'
Dywedodd Syr Keir Starmer mewn datganiad: “Mae’r ymgyrch hon yn ergyd arall i Rwsia ac yn atgoffa’r rhai sy’n cefnogi rhyfel (yr Arlywydd Vladimir) Putin yn yr Wcráin na allant guddio.
“Hoffwn roi teyrnged i bawb a oedd yn rhan o’r ymgyrch, gan gynnwys ein lluoedd arfog a’n swyddogion gorfodi’r gyfraith sy’n cadw’r wlad hon yn ddiogel 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.”
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Dan Jarvis: “Mae camau fel hyn yn gofyn am sgil, proffesiynoldeb a dewrder. Rwy’n rhoi teyrnged i bersonél ein lluoedd arfog a phawb sy’n gysylltiedig.
“Mae Rwsia yn dibynnu ar ei fflyd gysgodol i ariannu eu gwrthdaro yn Wcráin ac mae ein camau yn ergyd i ryfel anghyfreithlon Putin.”
Ysgrifennodd y Twrnai Cyffredinol yr Arglwydd Richard Hermer ar LinkedIn: “Gwnaeth y Llywodraeth hon yn glir y byddem yn mynd ar ôl fflyd gysgodol Rwsia o dan rym llawn cyfraith ryngwladol.
“Mae Rwsia yn dibynnu ar eu tanceri fflyd gysgodol i ariannu eu gwrthdaro yn Wcráin, ac mae’r cam hwn gafodd ei gwblhau gydag arbenigedd yn taro ergyd arall i beiriant rhyfel Putin.
“Rwy’n rhoi teyrnged i ddewrder a phroffesiynoldeb rhyfeddol personél ein lluoedd arfog, a phawb arall sy’n gysylltiedig.”
Llun: Y Weinyddiaeth Amddiffyn/PA

