Beiciwr modur wedi ei anafu'n ddifrifol ger Dinas Mawddwy
Cafodd beiciwr modur ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ger Dinas Mawddwy yng Ngwynedd bnawn Sadwrn.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi eu galw i'r gwrthdrawiad am 15:15 ar ffordd yr A470.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng car rali Ford Cortina coch a beic modur Triumph Tiger llwyd.
Fe wnaeth gyrrwr y beic modur ddioddef anafiadau difrifol ac fe gafodd ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Stoke, lle mae'n parhau i gael triniaeth.
Mae'r Rhingyll Alun Jones o'r Uned Troseddau Ffyrdd wedi apelio am dystion.
Dywedodd mewn datganiad bnawn Sul: "Rydym yn annog unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a oedd yn teithio yn yr ardal ar y pryd ac a allai fod â lluniau camera dangosfwrdd, i gysylltu â ni."
Gall unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y gwrthdrawiad gysylltu gyda'r heddlu drwy eu gwefan, neu ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod O092002.
Llun: Google

