Disgwyl i Lywodraeth y DU gyhoeddi gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol i blant
Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, wedi dweud mai nawr yw'r amser i "ddod â system sy'n methu ein plant" i ben, gyda disgwyl iddo gyhoeddi gwaharddiad ar y cyfryngau cymdeithasol i blant dan 16 oed yn ddiweddarach.
Bydd yn cyhoeddi'r newidiadau mewn ymgais i ddiogelu plant yn ystod cynhadledd i'r wasg ddydd Llun.
Mae gwaharddiad eisoes ar waith yn Awstralia, ond mae disgwyl i'r newidiadau yn y DU fynd y tu hwnt i'r rhai sydd mewn grym yn y wlad honno.
Yn ogystal â codi'r isafswm oedran ar gyfer apiau fel TikTok, Instagram, Facebook a YouTube i 16 oed, fe allai Llywodraeth y DU wahardd chatbots AI rhamantus a gwahardd plant dan 16 rhag cyfathrebu â phobl nad ydynt yn eu hadnabod ar blatfformau gemau ar-lein.
Hefyd, mae'n bosib y bydd cyrffyw ar y cyfryngau cymdeithasol i blant dan 18 oed er mwyn eu hatal rhag defnyddio eu ffonau symudol yn hwyr yn y nos.
Fe wnaeth 116,000 o bobl ymateb i ymgynghoriad ar y mater, yr ail ymateb mwyaf erioed.
Dywedodd 83% o rieni a wnaeth ymateb fod risgiau defnydd y cyfryngau cymdeithasol yn fwy na'r buddion i blant.
Roedd 62% o blant a ymatebodd yn dweud y byddai cyfyngu ar rai rhannau o'r cyfryngau cymdeithasol yn gwneud iddynt deimlo'n fwy diogel ar-lein.
'Rhoi plant a rhieni gyntaf'
Daw cyhoeddiad Syr Keir Starmer ar ôl iddo fynnu y dylai Apple a Google ei gwneud yn dechnolegol amhosib i blant gymryd llun, rhannu neu edrych ar luniau o bobl yn noeth ar eu ffonau symudol.
Dywedodd fod pobl "yn disgwyl i ni weithredu" er mwyn diogelu plant ar-lein.
"Mae sut rydym yn cadw plant yn ddiogel ar-lein yn un o ddadleuon mwyaf ein hoes," meddai.
"Fel tad, rwyf yn gwybod bod pob rhiant eisiau i'w plant dyfu i fyny yn ddiogel ac yn hapus.
"Mae pobl yn iawn i ddisgwyl i ni weithredu, a bydd y llywodraeth hon bob tro yn sefyll i fyny dros roi rhieni a phlant gyntaf.
"Dyna pam ein bod yn dod â system sydd yn methu ein plant i ben."
'Ymyrraeth'
Mae rhai pryderon wedi cael eu codi am rai o'r newidiadau.
Roedd 72% o blant a wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad yn dweud eu bod yn ofni "colli allan" pe bai cyfyngiadau yn dod i rym.
Mae cyd-gadeirydd Grŵp Seneddol Trawsbleidiol San Steffan i grewyr digidol, Feryal Clark, yn dweud na ddylai pobl ifanc golli mynediad at gynnwys sydd yn helpu i addysgu pobl ifanc.
"Mae fideos addysgiadol, o ansawdd uchel ar ffurf fideo gan grewyr cynnwys yn adnodd cyhoeddus hanfodol, ac mae hynny'n wahanol i gyfryngau cymdeithasol.
"Er enghraifft, mae llawer o bobl ifanc yn defnyddio platfformau i adolygu ar gyfer eu cyrsiau TGAU, i ddysgu iaith neu offeryn cerddorol.
"Mae angen i unrhyw ymyrraeth gyfreithiol fynd i'r afael â'r gwahaniaeth hwn.
"Byddai methu â gwneud hynny yn atal cyfleoedd i bobl ifanc mewn cyfnod lle maen nhw angen y pethau hyn fwyaf."
Fe gafodd y Molly Rose Foundation ei greu yn 2018 er cof am Molly Russell, a gymerodd bywyd ei hun ar ôl gwylio cynnwys niweidiol ar-lein.
Dywedodd prif weithredwr yr elusen na fyddai gwahardd defnydd y cyfryngau cymdeithasol i blant a phobl ifanc "yn ymdrin a risgiau diogelwch sylfaenol."
"Bydd y mwyafrif o blant yn parhau i ymweld â gwefannau risg uchel fydd a dim cymhelliant i osod camau diogelwch cadarn.
“Nid dyma beth mae arbenigwyr diogelwch ar-lein yn credu fydd yn gweithio. Mae Keir Starmer wedi dewis ildio cyfrifoldeb am fynd i'r afael ag algorithmau niweidiol a bydd ei waddol yn lleihau diogelwch plant am gyfnod o flynyddoedd.”
