Newyddion S4C

Agor ysgol feddygol newydd yn y gogledd yn 'garreg filltir'

ysgol feddygol.png

Bydd ysgol feddygol newydd yn chwarae rhan “allweddol” wrth geisio mynd i’r afael â'r heriau o ran “hyfforddi a chadw meddygon” yn y gogledd, meddai Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 

Dywedodd Dyfed Edwards y byddai’r ysgol sy'n agor yn swyddogol ddydd Gwener hefyd yn “cryfhau'r ddarpariaeth o ofal iechyd dwyieithog ar draws y rhanbarth.” 

Bydd yr ysgol newydd yn golygu bod myfyrwyr meddygol yng Nghymru bellach yn gallu cael eu hyfforddiant i gyd yn y gogledd, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae carfan gyntaf Ysgol Feddygol y Gogledd wedi dechrau astudio ym Mhrifysgol Bangor y semester hwn, gan olygu mai nhw fydd y rhai cyntaf i gael eu hyfforddiant meddygol cyfan yng ngogledd Cymru. 

Fe fydd yr ysgol yn derbyn 80 o fyfyrwyr eleni gyda disgwyl i nifer y myfyrwyr cynyddu’n raddol hyd at 140 y flwyddyn erbyn 2029-30 ymlaen. 

'Cam enfawr'

Dechreuodd y gwaith cynllunio ar gyfer yr ysgol yn 2020, pan gytunodd Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth i sefydlu'r ysgol.

Wrth agor yr ysgol gyda'r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles ddydd Gwener, dywedodd y Prif Weindiog Eluned Morgan y bydd yr ysgol yn “gam enfawr” ar gyfer recriwtio meddygon yng Nghymru. 

Dywedodd y byddai’n galluogi mwy o fyfyrwyr meddygol i hyfforddi yn y rhanbarth, “sy'n dda i'n Gwasanaeth Iechyd, yn enwedig yn y gogledd".

Dywedodd yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: "Wrth inni ddathlu 140 mlynedd o Brifysgol Bangor, mae lansio Ysgol Feddygol y Gogledd yn garreg filltir allweddol i'r brifysgol a'r rhanbarth. 

“Ar y cyd â'n partneriaid, ry'n ni'n llunio dyfodol iachach drwy hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ein cymunedau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.