Clwb llyfrau cwiar yn dechrau ar bennod newydd yng Nghaerdydd
Clwb llyfrau cwiar yn dechrau ar bennod newydd yng Nghaerdydd
Mae clwb llyfrau newydd wedi dechrau yng Nghaerdydd i bobl cwiar, gyda’r nôd o fod yn lle saff i’r gymuned LHDTC+.
Yn ôl siop Paned o Gê sy’n darparu’r llyfrau ar gyfer y clwb, mae angen mwy o ddigwyddiadau di-alcohol er mwyn i bobl allu cwrdd a chymdeithasu.
“Mae’r rhan fwyaf o weithgareddau i bobl cwiar yn digwydd gyda’r nos,” meddai Dan Bowen, perchennog Paned o Gê.
“Does dim llawer o lefydd i bobl iau, neu bobl sydd ddim yn yfed alcohol.”
Fe gynhaliwyd digwyddiad cyntaf y clwb llyfrau, o’r enw Queerly Beloved, yr wythnos hon, gyda phob tocyn wedi’i werthu.
“Be’ ’da ni angen gwneud yw cynnig gofod i bobl sydd eisiau rhywbeth gwahanol," meddai Dan Bowen.
Er mai llyfr Saesneg oedd y llyfr cyntaf, gobaith y criw yw darllen cynnwys cwiar Cymraeg yn y dyfodol.
“Mae gennym ni shilff sy’n benodol ar gyfer llenyddiaeth cwiar Gymraeg”, meddai Dan.
“Ond, mae dal gaps. Mae llawer angen cael ei wneud i gael pobl o liw, pobl anabl, pobl o gefndiroedd gwahanol sydd ddim yn cael eu cynrychioli ar y foment.
“Dyna beth sydd ar goll yn yr iaith Gymraeg.”
Yn ôl Yan White, rheolwr canolfan The Queer Emporium lle mae’r clwb yn cwrdd, mae’n gobeithio y bydd y lleoliad yn fan saff i’r clwb ddatblygu ac thyfu.
“Mae cael rhywbeth mor syml â chlwb llyfrau yn ffordd o ddod â phobl at ei gilydd, ac yn creu cyfeillgarwch a chymuned y mae pobl wir ei angen," meddai.
“Mae’n bwysig creu gofod sy’n benodol gynhwysol ond sydd hefyd yn ganolog i ddigwyddiadau fel hyn."