Carchar y Parc: Ymchwiliad yn 'flaenoriaeth' ar ôl marwolaethau
Mae ail-agor ymchwiliad i garchardai Cymru yn dilyn cyfres o farwolaethau yng Ngharchar y Parc yn “flaenoriaeth” i bwyllgor sydd wedi ail-ffurfio yn Nhŷ’r Cyffredin, yn ôl ei gadeirydd newydd.
Daw wedi i bedwar aelod o staff yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr gael eu harestio ar amheuaeth o ymosod a chamymddwyn fis diwethaf.
Dyw Heddlu De Cymru ddim wedi cyhoeddi unrhyw fanylion ynglŷn â’r digwyddiadau penodol sy’n gysylltiedig â’r arestiadau.
Mae 13 o bobl wedi marw yn y carchar eleni.
Dywedodd cadeirydd newydd Pwyllgor Materion Cymreig y Senedd, AS Llafur Ruth Jones, bod y digwyddiadau yno’n “hynod o bryderus” a’i bod yn benderfynol o ail-agor ymchwiliad i garchardai Cymru o ganlyniad.
Mae’r pwyllgor eisoes wedi cael gwybod bod staff Carchar y Parc wedi mynd â sylweddau anghyfreithlon i’r carchar, ac mae un carcharor wedi honni bod “cyffuriau ym mhobman – o ganabis i heroin”.
'Pryderus'
Roedd y pwyllgor eisoes wedi cychwyn rhai ymchwiliadau gwahanol ond roedd yn rhaid eu hoedi oherwydd yr etholiad cyffredinol, meddai Ms Jones, sef AS Dwyrain Casnewydd ac Islwyn.
Ymhlith y rheiny y mae trafodaethau parhaus gyda chwmni gwaith dur TATA, yn ogystal â digwyddiad craffu cyn penodi cadeirydd newydd i S4C, meddai.
“Roeddwn ni wedi trefnu i ymweld â HMP Berwyn yng ngogledd Cymru, ond ni ddigwyddodd hynny wedi i’r etholiad cyffredinol cael ei alw ar frys," meddai.
“Hoffwn ail-gydio yn hynny oherwydd ein bod yn amlwg yn cymharu’r pedwar carchar, ond yn benodol, dwi'n meddwl bod dwy farwolaeth arall bellach wedi bod yn HMP Parc sydd yn hynod o bryderus.”
Dyw’r pwyllgor ddim wedi ei ffurfio hyd yma ac mae Ms Jones wedi dweud ei bod yn gobeithio gweld rhai ASau newydd yn cymryd rhan a fydd yn cynnig syniadau gwahanol.