Newyddion S4C

'Rhan ohonof i': Seren Bake Off o Gymru yn rhannu ei phrofiad o golli babi

03/10/2024
georgie grasso.png

Mae Cymraes sy'n cystadlu ar The Great British Bake Off wedi dweud bod ffilmio ar gyfer pennod ddiweddaraf y gyfres yn "hynod o galed" ar ôl i’r mwclis roedd hi’n ei wisgo i gofio am ei diweddar ferch dorri.

Dywedodd Georgie Grasso, 34 o Gaerfyrddin, sy'n gweithio fel nyrs pediatrig, wrth ei dilynwyr Instagram "nad ydych chi ar eich pen eich hun" gan bod ei bywyd wedi "newid am byth" yn 2021 pan gafodd ei merch ei geni'n farw-anedig ar ôl 25 wythnos o feichiogrwydd.

"Yn ystod yr her showstopper, fe wnaeth fy mwclis yr ydw i’n ei wisgo’n ddyddiol gyda’i llaw a’i hôl troed, a mwclis fy mam-merch, dorri hanner ffordd trwy’r her heb i mi wybod, ac nes i dorri i lawr," meddai mewn datganiad nos Fawrth.

"Fe wnaeth Alison [Hammond] a Noel [Fielding] fy nal a’m cysuro a’m gwthio i ddal ati.

"Yna daethom o hyd i’r darnau ar y llawr, ac fe wnaeth y tîm eu cadw’n ddiogel i mi a rhedeg allan i brynu cadwyn newydd i mi.

"Ar ôl hyn allwn i ddim atal y dagrau rhag llifo am weddill yr her, a dyna pam rydw i’n edrych mor puffy a hyll, ond fe wnes i barhau i gario ymlaen ond doeddwn i ddim yn gallu gwneud fy ngorau."

'Rhan ohonof i'

A hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yr wythnos nesaf, dywedodd Georgie ei fod yn teimlo'n "briodol" iddi rannu ei phrofiad.  

"Doeddwn i ddim yn siŵr a ddylwn i ddweud hyn, ond rwyf yn, mae’n rhan ohonof i a fy nhaith," meddai.

"Fe wnaeth gymryd drosodd y showstopper. Nid yw'n sob story nac yn esgus pam na wnes i'n anhygoel, ond mae'n rhywbeth rydw i eisiau ei egluro. 

"A gyda hi’n wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yr wythnos nesaf, mae’n teimlo’n briodol codi ymwybyddiaeth."

Roedd yr her showstopper yr wythnos hon yn gofyn i'r cystadleuwyr greu theatr bypedau allan o fisgedi.

Fe benderfynodd Georgie greu portread o Ŵyl Gymreig wedi’i haddurno â dawnswyr gwerin bisgedi siocled.

"Roeddwn i wir eisiau creu rhywbeth arbennig gyda'r showstopper hwn i Gymru, mae’n wir ddrwg gen i na allwn roi fy ngorau iddo," meddai.

"Dydw i ddim yn edrych am gydymdeimlad neu unrhyw beth o'r fath. Roeddwn i jyst eisiau egluro pam na wnes i roi fy ngorau. Sori, Cymru."

Ychwanegodd: "I unrhyw un sy’n dioddef, nid ydych chi ar eich pen eich hun."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.