Joe Allen yn dychwelyd i garfan Cymru
Joe Allen yn dychwelyd i garfan Cymru
Mae Joe Allen yn dychwelyd i garfan Cymru ar gyfer gemau yn erbyn Gwlad yr Iâ a Montenegro yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Cafodd Allen ei enwi fel un o ddynion carfan Craig Bellamy fore Mercher, ag yntau’n dychwelyd am y tro cyntaf ers iddo ymddeol o bel droed rhyngwladol y llynedd
Daw’r cyhoeddiad gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru ymhlith pryderon am anafiadau ddiweddar Ethan Ampadu ac Aaron Ramsey.
Bydd Rhys Norrington-Davies hefyd yn dychwelyd i’r garfan am y tro cyntaf am dros ddwy flynedd wedi iddo ddioddef anafiadau hirdymor.
Bydd David Brooks, Nathan Broadhead a Wes Burns hefyd yn rhan o garfan Cymru Craig Bellamy am y tro cyntaf wedi iddyn nhw fethu gemau’r fis diwethaf.
Fe fydd Cymru yn wynebu Gwlad yr Ia yn Reykjavik ar 11 Hydref cyn dychwelyd adref er mwyn wynebu Montenegro yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 14 Hydref.
Carfan Cymru
Golwyr: Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Sheffield United), Karl Darlow (Leeds United)
Amddiffynwyr: Rhys Norrington-Davies (Sheffield Utd), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Owen Beck (Blackburn Rovers, ar fenthyg o Lerpwl), Joe Rodon (Leeds United), Chris Mepham (Bournemouth), Ben Cabango (Abertawe), Neco Williams (Nottingham Forest), Connor Roberts (Burnley)
Canol cae: Joe Allen (Abertawe), Josh Sheehan (Bolton Wanderers), Jordan James (Rennes), Ollie Cooper (Abertawe), Sorba Thomas (Nantes, ar fenthyg o Huddersfield), Wes Burns (Ipswich Town), Nathan Broadhead (Ipswich Town), David Brooks (Bournemouth)
Ymosodwyr: Brennan Johnson (Tottenham Hotspur), Harry Wilson (Fulham), Kieffer Moore (Sheffield United), Lewis Koumas (Stoke, ar fenthyg o Lerpwl), Mark Harris (Oxford United), Liam Cullen (Abertawe)