Gwrthdrawiad rhwng cerbyd a mam a'i merch yn Abertawe
01/10/2024
Mae’r heddlu wedi dweud eu bod yn cynnal ymchwiliad yn dilyn gwrthdrawiad rhwng cerbyd a mam a’i merch yn Abertawe.
Fe gafodd y ddwy eu taro gan fan Peugeot ger Neuadd y Ddinas fore Mawrth.
Dyn lleol 57 oed oedd yn gyrru’r cerbyd.
Cafodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys parafeddygon, wybod am y digwyddiad tua 08.50 y bore.
Mae’r fenyw wedi dioddef mân anafiadau. Dyw’r ferch ddim wedi eu hanafu, meddai'r heddlu.