Newyddion S4C

Bachgen wedi marw ar ôl 'digwyddiad gyda gwn' ar fferm

29/09/2024
Heddlu (Lloegr)

Mae'r heddlu yn ymchwilio yn dilyn marwolaeth bachgen wyth oed ar fferm, ac mae dyn wedi ei arestio.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 14.50 ddydd Sadwrn i'r fferm yn ardal Warcop o Cumbria yn dilyn adroddiad bod plentyn wedi’i anafu’n ddifrifol gan wn yn yr eiddo.

Cafodd y gwn ei ddiogelu yn y fan a’r lle gan yr heddlu ac aethpwyd â'r bachgen i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr ar ôl dioddef anafiadau difrifol i’w ben a’i wyneb.

Bu farw'r bachgen dros nos.

Arestiodd yr heddlu ddyn yn ei 60au yn y lleoliad ar amheuaeth o ymosod. 

Mae’n parhau yn y ddalfa ond mae bellach wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol.

Dywedodd un o drigolion Brough gerllaw wrth asiantaeth newyddion PA ei fod yn gyrru ger y lleoliad pan welodd feddygon, faniau heddlu a hofrennydd.

Dywedodd Frank Chalmers, 73 oed: “Fe basiais i’r fferm tua 15:00 a gwelais yr hofrennydd gyda’i rotor wedi’i stopio a meddygon yn cerdded i fyny’r allt, llawer o heddlu, efallai pum fan heddlu. 

"Roedd un car wedi ei barcio yng nghanol cae gwag.

“Roedd y cyfan yn edrych yn ddifrifol iawn. Rwy’n meddwl gyda’r lefel honno o bresenoldeb yr heddlu ei fod fel arfer yn ddigwyddiad ofnadwy fel marwolaeth.”

Dywedodd fod yr ardal yn un “wledig iawn, iawn”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.