Ras arweinyddiaeth y Ceidwadwyr: Ymgeiswyr yn annerch cynhadledd y blaid
Fe fydd y gynhadledd gyntaf ers i'r Ceidwadwyr golli'r etholiad ym mis Gorffennaf yn cael ei chynnal yn Birmingham ddydd Sul.
Bydd Robert Jenrick, Tom Tugendhat, Kemi Badenoch a James Cleverly yn gobeithio sicrhau cefnogaeth gan aelodau'r blaid i'w harwain.
Mae gan y rhai sy'n ymgeisio i fod yn arweinydd y blaid y cyfle i wneud araith yn y gynhadledd, gyda Aelodau Seneddol yn dewis y ddau a fydd yn parhau yn y ras ar 10 Hydref.
Bydd aelodau yn dewis rhwng y ddau, gyda'r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar 2 Tachwedd.
Mae ymgeiswyr wedi trafod materion o drethi i fewnfudo i ddyfodol y blaid, mewn amryw o gyfweliadau.
Ar ddechrau sawl diwrnod o ddigwyddiadau, mae disgwyl i gadeirydd dros dro y blaid, Richard Fuller, ddweud wrth aelodau ei fod yn "ymddiheuro o waelod calon" am golli'r etholiad.
Mae mewnfudo wedi chwarae rhan ganolog yn yr ymgyrch, gyda Kemi Badenoch yn "addo rhoi diwedd ar fewnfudo anghyfreithlon trwy orfodaeth".
Dywedodd Robert Jenrick fod angen i'r wlad gael "system dreth sy'n gwobrwyo pobl sy'n cymryd risg" ac y dylai'r wlad "fanteisio ar y rhyddid y mae Brexit wedi ei roi a newid trothwyon TAW ar gyfer busnesau bach".
Mae Tom Tugendhat yn dweud fod y blaid wedi cael ei "gwrthod yn y blwch pleidleisio" a bod pobl eisiau "arweinyddiaeth sy'n rhoi'r wlad gyntaf".
Dywedodd James Cleverly na ddylai "unrhyw un" roi mwy na hanner eu henillion i'r wlad.
Mae disgwyl i'r cadeirydd dros dro Richard Fuller ddweud: "Dwi'n ymddiheuro o waelod calon i chi, aelodau y blaid Geidwadol."
Yn ogystal ag addo y bydd y blaid "yn newid", mae disgwyl i Mr Fuller hefyd drafod pleidiau y Democratiaid Rhyddfrydol a Reform UK wedi i'r ddwy blaid gymryd seddi oddi ar y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol.