Newyddion S4C

Tîm merched rygbi Cymru'n colli'n drwm yn erbyn Awstralia

28/09/2024
Awstralia v Cymru

Fe wnaeth tîm merched rygbi Cymru golli yn drwm yn erbyn Awstralia yng ngêm agoriadol WXV2 ddydd Sadwrn. 

Daw'r fuddugoliaeth i Awstralia yn Cape Town yn Ne Affrica wedi iddyn nhw golli yn erbyn Cymru am y tro cyntaf yn Rodney Parade yr wythnos diwethaf mewn gêm gyfeillgar. 

Roedd hi'n gêm agos ar ôl 40 munud, gyda Chymru ar ei hôl hi o 10-5 ond fe aeth Awstralia yn eu blaen i sicrhau 27 pwynt arall yn yr ail hanner, gyda'r sgor terfynol yn 37-5.

Carys Phillips oedd yr unig sgoriwr i Gymru yn y gêm.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.