
Iechyd meddwl pobl ifanc wedi gwaethygu yn ystod y pandemig

Diffyg cymhelliant ac ofnau am y dyfodol – dyma rai o’r effeithiau mae pobl ifanc Cymru’n dweud mae’r pandemig wedi cael ar eu hiechyd meddwl.
Daw hyn wrth i fwy na dau draean o bobl ifanc deimlo bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y pandemig, yn ôl ymchwil arbennig sydd wedi ei weld gan ITV Cymru.
Mae adroddiad newydd gan yr elusen Mind Cymru, fydd yn cael ei gyhoeddi ddiwedd yr wythnos, yn llunio darlun llwm o effaith y pandemig ar aelodau ieuengaf y gymdeithas.
O’r rheiny a ddywedodd bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn 2020, dywedodd bron i 90% ohonynt mai teimladau o unigrwydd oedd y rheswm.

Dywedodd cyfarwyddwr yr elusen, Susan O’Leary, y bydd angen mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl er mwyn helpu pobl ifanc i “ymladd rhai o effeithiau negyddol” y pandemig.
“Bydd angen cymorth arnyn nhw i wella o brofiad trawmatig y cyfnodau clo a’r cyfyngiadau," dywedodd Ms O'Leary.
“Bydd angen mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau a chymorth ar bobl ifanc er mwyn eu helpu nhw i wrthsefyll unigrwydd a rhai o’r effeithiau negyddol sydd wedi cael eu profi yn y cyfnod hyn.”
Mae Tia Camilleri a Cara Walker yn ddisgyblion Lefel-A yng Nghaerdydd.
“‘Dw i’n credu mai ofn am y dyfodol yw’r prif beth mae nifer ohonom ni’n ei deimlo,” meddai Ms Camilleri.

“Oherwydd ‘dw i’n meddwl bod rhain yn flynyddoedd hynod allweddol yn nhermau symud ymlaen yn ein gyrfaoedd, symud ymlaen o fewn addysg, a phenderfynu beth rydym ni eisiau ei wneud.
“Dydw i ddim yn credu fod pobl wir yn deall y sefyllfa rydym ni ynddi, a gymaint o effaith mae hi wedi ei chael arnom ni.”
“Roedd lot llai o gymhelliant a ffocws gen i ar adegau,” dywedodd Ms Walker.
“Rhoddodd hwn dipyn o straen arna i, gwybod nad oeddwn i’n gallu cyrraedd fy mhotensial oherwydd yr amgylchiadau roedden ni mewn.”
Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, wrth ITV Cymru: “Mae dy fywyd cymdeithasol yn rhan hollbwysig o dy ddatblygiad fel person ifanc.
“Maen nhw’n datblygu eu hunaniaeth a lot o ddealltwriaeth trwy eu perthnasau a’u rhwydweithiau nhw, felly mae wirioneddol yn beth pwysig.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n gweithio i ddiogelu iechyd meddwl pobl ifanc er gwaetha’r pandemig. Dros y blynyddoedd diwethaf, maen nhw wedi creu adnoddau, buddsoddiadau a chymorth ar gyfer plant o fewn a thu hwnt i’r ysgol.
Ond maen nhw’n cydnabod fod plant a phobl ifanc wedi cael eu heffiethio’n sylweddol gan y flwyddyn ddiwethaf.
Arferion newydd
Er gwaethaf sialensiau’r cyfnodau clo, mae rhai o bobl ifanc Cymru wedi darganfod sawl ffordd o ddelio gyda’u hiechyd meddwl.

Yn ôl yr ymchwil, gwnaeth tri chwarter o blant ymdopi trwy fynd tu allan, a dywedodd bron hanner eu bod nhw wedi datblygu arferion da neu hobïau yn ystod y pandemig.
Bob wythnos, mae Ela Cudlip, sydd yn 19 oed, yn mynd i’r Engine House yn Dowlais i ddysgu hunanamddiffyn i blant.
“I bobl sydd yn dioddef o iselder fel fi – mae’n anodd iawn i dynnu dy hun o’r meddylfryd negyddol hynny trwy’r adeg, yn enwedig os wyt ti’n styc tu fewn,” meddai Ms Cudlip.
“Mae’r ffaith fy mod i’n gallu mynd rhywle am awr – jyst am awr – i dorri i ffwrdd o hynny, mae wir yn anhygoel. Es i trwy lot, ond ‘dw i’n falch o ble ‘dw i nawr.”