Heddlu Gweriniaeth Tsiec yn rhyddhau fideo o ymosodiad angheuol ar ddyn o dde Cymru
Mae'r heddlu yn y Weriniaeth Tsiec wedi rhyddhau fideo o ymosodiad ar ddyn o'r de a arweiniodd at ei farwolaeth.
Bu farw David ‘Dai’ Richards, 31 oed, o Aberpennar mewn ymosodiad honedig ddydd Sadwrn tra'r oedd yno ar gyfer parti stag cyfaill iddo.
Mae'r fideo yn dangos grŵp o bobl yn y strydoedd yn y ddinas cyn iddynt ddechrau ymosod ar ei gilydd.
Yn ôl adroddiadau, fe wnaeth dyn ddefnyddio potel o fodca fel arf i daro Mr Richards yn ystod y digwyddiad.
Bu farw'n ddiweddarach o'i anafiadau yn yr ysbyty.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu, Jan Daněk, ei fod yn ymddangos bod dau griw o ymwelwyr wedi bod yn mwynhau cwmni ei gilydd am gyfnod.
“Ar y dechrau, roedd popeth yn dawel, ac roedd y twristiaid yn sgwrsio’n normal. Yna, dechreuodd dadl rhyngddynt," meddai Mr Daněk.
Dywedodd teulu Mr Richards ei fod wedi marw yn yr ysbyty wedi’r ymosodiad “digymell”.
Roedd yn bartner i Jola Simms ac yn dad i Aurora, pedair oed, Bear, dwy oed, a Vienna, un oed.