Newyddion S4C

Cymro’n creu llwyfan ar lwyfan y byd

12/07/2021
Gareth ger y podiwm

Wrth i’r Eidal baratoi i godi’r gwpan fel pencampwyr newydd Ewrop nos Sul, roedd un Cymro yn chwarae rhan bwysig iawn yn y dathliadau.

Mae Gareth Wyn Roberts, sy’n wreiddiol o’r Bontnewydd ger Caernarfon, yn rheolwr prosiect i gwmni sy’n creu a dylunio offer gweledol at gyfer digwyddiadau mawr.

“Roedd hi’n fraint fawr ac yn brofiad gwych cael bod yn rhan o ddigwyddiad fel hyn” meddai Gareth wrth Newyddion S4C.

Roedd y cwmni mae Gareth yn gweithio iddynt yn gyfrifol am adeiladu’r llwyfan ar gyfer cyflwyno’r medalau i’r timau a’r swyddogion ar ddiwedd y gêm.

Image
Gareth yn adeiladu
Llun: Gareth Wyn Roberts

“Mae’r cwmni dwi’n gweithio iddo yn creu darnau o gelf, setiau, neu arwyddion creadigol ar gyfer digwyddiadau mawr ar draws y byd," ychwanegodd Gareth.

“Ni oedd yn gyfrifol am greu’r cerfluniau ar gyfer Cymdeithas Bêl-droed Cymru cyn y bencampwriaeth hon, yn ogystal â’r bêl rygbi enfawr oedd i’w gweld ar wal Castell Caerdydd ‘chydig flynyddoedd yn ôl.

"Fel Cymro balch, yn amlwg, roedd gen i fy nheimladau fy hun am ganlyniad y gêm, ond roeddwn yn gweithio gyda nifer fawr o bobl oedd yn gobeithio gweld Lloegr yn codi’r gwpan neithiwr, ac roedd y siom yn amlwg iawn ar wynebau pawb ar ddiwedd y gêm.

“Heb os, un o’r pethau gorau am y profiad neithiwr, oedd cael gweithio o flaen torf unwaith eto, wedi blwyddyn a hanner ofnadwy o heriol i bawb, roedd yr awyrgylch a’r sŵn byddarol yn Wembley neithiwr yn rhywbeth nad oeddwn wedi brofi ers amser hir.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.